Disgrifiad o'r Rhaglen

Os ydych yn awyddus i ddechrau gyrfa yn y diwydiant harddwch, mae hwn yn gwrs cyffrous a fydd yn eich galluogi i weithio gyda'r cyhoedd yn ein cyfleuster salon o’r radd flaenaf, Academi Steil, sy'n salon masnachol cwbl weithredol.  Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ymarferol yn y canlynol: Triniaethau dwylo; Triniaethau traed; Triniaethau i’r wyneb; Cwyro; Iechyd a diogelwch; Triniaethau llygaid (tintio, siapio, blew amrant unigol); Colur; Dyletswyddau derbynfa.

Byddwch hefyd yn astudio anatomeg a ffisioleg i ennill gwybodaeth greiddiol am yr unedau uchod.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn

  Campws Aberteifi

Nodweddion y Rhaglen

Mae ein salonau gwallt a harddwch yn eithriadol ac yn eich caniatáu i hyfforddi a gweithio mewn amgylchedd salon masnachol, gan weithio gydag aelodau'r cyhoedd yn wythnosol.  Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynychu sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector a chymryd rhan mewn cystadlaethau. 

Dilyniant a Chyflogaeth

Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs, gallwch symud ymlaen i gwrs lefel 3 mewn harddwch.  Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i chi i weithio mewn salonau, sbaon, siopau adrannol, gwestai a llongau gwyliau.  Mae llawer o fyfyrwyr o Goleg Ceredigion wedi mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain neu i weithio i sbaon yn eu hardal leol ac ymhellach i ffwrdd.

Asesu'r Rhaglen

Cewch eich asesu’n ymarferol yn y salon a bydd angen i chi sefyll profion uned i ddangos eich gwybodaeth.

Gofynion y Rhaglen

Bydd angen pedwar TGAU arnoch ar raddau A* i D gyda dwy radd C, gydag un naill ai yn y Gymraeg (iaith gyntaf)/Saesneg neu fathemateg.  Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.

Gellir derbyn myfyrwyr hŷn heb gymwysterau yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus.  Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Costau Ychwanegol

Fel rhan o’r cwrs mae'n ofynnol eich bod yn prynu tiwnig harddwch a chit harddwch.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i<

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB