Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae hwn yn gyfle delfrydol i ddatblygu eich creadigrwydd a herio eich sgiliau.  Mae hwn yn gwrs hynod ymarferol gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau drwy hyfforddiant ac asesu parhaus.   Byddwch yn mynychu sesiynau salon ac ystafell ddosbarth sydd wedi’u hamserlennu ar y pynciau canlynol:  

Iechyd a diogelwch, gweithio yn y diwydiant, ymgynghori, steilio a gwisgo gwallt, torri gwallt menywod, lliwio, hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau, torri gwallt dynion, creu delwedd.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn

  Campws Aberteifi

Nodweddion y Rhaglen

Mae ein salonau gwallt a harddwch wedi’u cynllunio’n benodol at ddibenion hyfforddi ac mae ganddynt yr holl gyfarpar ac adnoddau diweddaraf.  Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig iawn ac yn barod i weithio fel rhan o dîm.  Fel adran rydym yn awyddus i annog myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol a chenedlaethol hefyd.  Hefyd, rydym yn cynnal diwrnodau cyfoethogi sy’n cynnwys lliwio affinage, tyllu clustiau, farnis ewinedd gel, estyniadau gwallt a cholur theatrig.  Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynychu sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector

Cynnwys y Rhaglen

Rydych yn dysgu gyda’ch aseswr drwy sesiynau ymarferol, trafodaethau grŵp ac aseiniadau. Bydd gennych fynediad i amgylchedd trin gwallt realistig lle byddwch yn ymarfer ac yn arddangos eich sgiliau.

Mae pob uned yn cynnwys elfen o waith theori a gwaith ymarferol. Bydd gwaith rhifedd a llythrennedd integredig yn ogystal o fewn yr unedau gan y bydd disgwyl i ddysgwyr gyflawni sgil hanfodol yn y ddau bwnc hyn.

Dilyniant a Chyflogaeth

Os byddwch yn dilyn gyrfa mewn trin gwallt mae’n bosibl y gallwch ennill cyflogaeth drwy unrhyw rai o’r llwybrau canlynol:

  • Salonau
  • Hunangyflogaeth
  • Gwestai a sbaon 
  • Llongau gwyliau
  • Theatr a ffilm

Asesu'r Rhaglen

Caiff gwaith ymarferol ei asesu gan ddefnyddio dulliau arsylwi a thystiolaeth cynnyrch. Bydd y gwaith theori yn cael ei asesu gydag arholiad amlddewis ar-lein.

Gofynion y Rhaglen

Bydd angen pedwar TGAU arnoch ar raddau A* i D gyda dwy radd C, gydag un naill ai yn y Gymraeg (iaith gyntaf)/Saesneg neu fathemateg. 

Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.  Gellir derbyn myfyrwyr hŷn heb gymwysterau yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus.  Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn derbyn addysgu a chymorth ychwanegol i astudio naill ai ar gyfer TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Costau Ychwanegol

Mae cit trin gwallt o gwmpas £200

Mae iwnifform o gwmpas £80

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol

 

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB