Mae hwn yn gyfle delfrydol i ddatblygu eich creadigrwydd a herio eich sgiliau. Mae hwn yn gwrs hynod ymarferol gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau drwy hyfforddiant ac asesu parhaus.
Byddwch yn mynychu sesiynau salon ac ystafell ddosbarth sydd wedi’u hamserlennu ar y pynciau canlynol:
Iechyd a diogelwch
Cefnogaeth ymgynghoriad
Steilio a gwisgo gwallt
Torri gwallt menywod
Lliwio gwallt i greu amrywiaeth o edrychiadau
Hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau
Gwallt priodasol
Cywiro lliw gwallt
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Aberteifi
Nodweddion y Rhaglen
Mae ein salonau gwallt a harddwch wedi’u cynllunio’n benodol at ddibenion hyfforddi ac mae ganddynt yr holl gyfarpar ac adnoddau diweddaraf. Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig iawn ac yn barod i weithio fel rhan o dîm. Fel adran rydym yn awyddus i annog myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol a chenedlaethol hefyd. Hefyd, rydym yn cynnal diwrnodau cyfoethogi sy’n cynnwys lliwio affinage, tyllu clustiau, farnis ewinedd gel ac estyniadau gwallt a cholur theatrig. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynychu sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector
Cynnwys y Rhaglen
Rydych yn dysgu gyda’ch aseswr drwy sesiynau ymarferol, trafodaethau grŵp ac aseiniadau. Bydd gennych fynediad i amgylchedd trin gwallt realistig lle byddwch yn ymarfer ac yn arddangos eich sgiliau.
Mae pob uned yn cynnwys elfen o waith theori a gwaith ymarferol. Bydd gwaith rhifedd a llythrennedd integredig yn ogystal o fewn yr unedau gan y bydd disgwyl i chi gyflawni sgil hanfodol yn y ddau bwnc hyn.
Dilyniant a Chyflogaeth
Byddwch yn cwmpasu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arbenigedd neu dechneg benodol. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel torri gwallt, steilio a gwisgo gwallt, lliwio a chywiro lliw.
Salonau
Theatr a Ffilm
Hunangyflogedig
Gwestai a Sbaon
Llongau gwyliau
Asesu
Asesu'r Rhaglen
Caiff gwaith ymarferol ei asesu gan ddefnyddio dulliau arsylwi a thystiolaeth cynnyrch. Bydd y gwaith theori yn cael ei asesu gydag arholiad amlddewis ar-lein.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen pum TGAU ar raddau A* i C arnoch, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg iaith a mathemateg, neu ddiploma lefel dau.
Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant. Byddwch hefyd yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddwch yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Costau Ychwanegol
Mae cit trin gwallt arbenigol lefel tri o gwmpas £140.
Mae iwnifform o gwmpas £80.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB