Pam fod angen Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Pan fyddwch yn ymgeisio am fathau penodol o swyddi neu leoliadau gwaith mae’n bosibl y gofynnir i chi wneud cais am wiriad cofnod troseddol. Fel arfer mae’r rhain yn swyddi sy’n golygu::
Beth yw gwiriad manwl y DBS
Gwiriad manwl y DBS – ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed mewn gweithgaredd a reoleiddir. Mae’r Gwiriad hwn yn disodli’r hen Wiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB).
Beth fyddwch chi’n ei weld ar wiriad cofnod troseddol
Bydd gwiriadau safonol y DBS yn cynnwys manylion am bob collfarn sydd wedi darfod a chollfarnau sydd heb ddarfod, rhybuddion, ceryddon a rhybuddion olaf o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC). Bydd gwiriad manwl y DBS yn cynnwys unrhyw wybodaeth o’r PNC a gall hefyd chwilio am:
Faint mae gwiriad cofnod yn ei gostio?
Mae gwiriad yn costio:
Bydd hwn yn daladwy adeg Cofrestru ar gyfer yr holl fyfyrwyr Gofal Plant ac yn ystod yr wythnos Gynefino ar gyfer myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gellir talu ar ffurf Arian Parod, Cerdyn neu Siec mewn Swyddfa Gampws
Darparu Dogfennau Hunaniaeth ar gyfer y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Fel rhan o’ch cais bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth. Bydd rhaid i chi ddarparu dogfennau sy’n cadarnhau eich:
Pwy sydd angen gweld eich dogfennau hunaniaeth?
Bydd y person a wnaeth ofyn i chi lanw’r ffurflen yn gwirio eich prawf hunaniaeth, neu yn eich cyfeirio at rywun sy’n gallu gwneud hynny.
Pa ddogfennau y dylid eu darparu
Dylech chi ddarparu o leiaf un o’r dogfennau canlynol:
Os na fedrwch chi ddarparu unrhyw un o’r dogfennau uchod, mae rhaid i chi ddarparu pump o’r rhestr isod.
Hefyd dylech chi ddarparu dau o’r canlynol:
un o’r dogfennau canlynol o Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig (UKBA) (Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo (BIA) gynt) neu’r Gyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd (IND): Dogfen Deithio’r Confensiwn (CTD) - Glas; Dogfen Pobl heb Ddinasyddiaeth (SPD) - Coch; Tystysgrif Teithio (CIT) - Brown; Cerdyn Cofrestru Ceiswyr Lloches (ARC)
Dylai dogfennau â * fod wedi eu cyhoeddi o fewn 3 mis i ddyddiad eich cais.
Dylai dogfennau â ** fod wedi eu cyhoeddi o fewn 12 mis i ddyddiad eich cais.
Gall dogfennau heb * neu ** fod yn hyn na 12 mis ond rhaid eu bod yn ddilys o hyd.
Sut i gysylltu â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Llinell gymorth y DBS ar gyfer ymholiadau cyffredinol: 03000 200190 8.00 am i 6.00 pm yn ystod yr wythnos 10.00 am i 5.00 pm ar ddydd Sadwrn (ar gau ar ddydd Sul ac adeg gwyliau cyhoeddus) Mae yna rif ar wahân ar gyfer ymgeiswyr trawsryw yn unig. Ni ellir trosglwyddo neu ymdrin ag unrhyw ymholiadau cyffredinol a dderbynnir ar y rhif hwn. Hefyd mae gan y rhif hwn wasanaeth ateb lle y gallwch chi adael eich enw a’ch rhif cyswllt a bydd aelod o’r tîm yn eich ffonio chi nôl.