Efallai bod popeth i'w weld yn ddryslyd ar y foment, mae ffeindio eich ffordd o gwmpas yn gallu bod yn frawychus ac nid yw'n hawdd gwybod pa adnoddau a chymorth sydd ar gael.
Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun!
Bydd tudalennau gwe'r llyfrgell yn eich helpu i roi cychwyn arni ac mae taflenni cymorth ar gael yn y llyfrgell.
Mae gan Goleg Ceredigion lyfrgelloedd heb furiau. Mae llawer o adnoddau a gwybodaeth ar gael ar-lein a dim ond galwad ffôn neu e-bost i ffwrdd ydyn ni. OND . . . beth am ddod i gwrdd â ni'n bersonol, mae'r llyfrgell yn lle gwych i astudio ac mae'r staff y awyddus i helpu.
Cewch gynnig i gael sesiwn gynefino â'r llyfrgell ar ddechrau eich cwrs. Bydd hyn yn cwmpasu'r hanfodion i gyd a byddwch yn gallu gofyn cwestiynau hefyd. Ond, os ydych wedi methu hynny, rydych wedi dechrau'n hwyr — neu hyd yn oed os hoffech chi fynd drwy bethau eto - mae modd i chi gael sesiwn galw heibio neu sesiwn un i un wedi'i bwcio ymlaen llaw - dim ond i chi gysylltu â llyfrgell eich campws.
Angen cerdyn llyfrgell? . . Nid oes angen cerdyn llyfrgell arnoch ar gyfer Llyfrgelloedd Campws Aberystwyth neu Aberteifi. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich rhif Adnabod Myfyriwr a roddir i chi yn ystod cynefino. Bydd y rhif hwn ar eich cerdyn adnabod myfyriwr hefyd.