Mae gweithdai Academi’r Dyfodol wedi’u cynllunio i roi cyflwyniad i chi i’r meddylfryd entrepreneuraidd ac mae’n darparu hyfforddiant ymarferol a fydd yn:
- datblygu sgiliau mewn arloesedd a chreadigrwydd
- hyrwyddo entrepreneuriaeth, brwdfrydedd a phwrpas
- meithrin hyder a gwytnwch
Gan weithio ar brosiect gyda nifer o Entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes o’r ardal leol. Byddwch yn datblygu gallu creadigol, hyder entrepreneuriaidd, ac yn ennill y sgiliau i’ch cefnogi yn eich astudiaethau, gwaith a busnes. Dewiswch weithio o fewn un o’r meysydd canlynol: Celfyddydau Perfformio, Celf, Fideo a Ffotograffiaeth neu Bwyd.
DIFFINIO: DEWISWCH FAES PROBLEMUS I CHI A’CH TÎM WEITHIO ARNO
CREU: Mynnwch eich ysbrydoli gan dueddiadau a chyfleoedd ac ewch ati i gynhyrchu llawer o syniadau newydd
DILYSU: Arbrofwch a phrofwch p’un a yw eich syniadau yn diwallu angen
ADEILADU: Datblygwch fodel busnes ac adeiladwch brototeip fel eich bod yn gallu dangos eich syniad
GWNEUD CYNNIG: Ewch ati i Baratoi, Ymarfer a Chyflwyno eich syniad i banel o arbenigwyr
a chael adborth gwerthfawr