• YN EICH CEFNOGI

    Profiad Dysgwyr yng Ngholeg Ceredigion
  • EICH CEFNOGI CHI

    Profiad Dysgwyr yng Ngholeg Ceredigion

Beth yw Togetherall?

  • Cymuned lle mae aelodau yn anhysbys i’w gilydd, maen nhw’n gallu rhannu sut maen nhw’n teimlo a chefnogi ei gilydd
  • Mae mynediad 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn
  • Mae wedi'i reoli'n glinigol gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig ar gael 24/7 i gadw'r gymuned yn ddiogel
  • Hunanasesiadau ac adnoddau argymelledig
  • Offer creadigol i helpu mynegi sut rydych yn teimlo
  • Ystod eang o gyrsiau hunan-dywysedig i’w gwneud ar eich cyflymder eich hun

Gall pawb yng Ngholeg Ceredigion a Choleg Sir Gâr gael mynediad i gymorth iechyd meddwl ar-lein yn rhad ac am ddim gyda Togetherall, unrhyw adeg, unrhyw ddydd.  P’un a ydych chi’n brwydro i ymdopi, yn teimlo’n isel neu ddim ond angen lle i siarad, gall Togetherall eich helpu i archwilio eich teimladau mewn amgylchedd cefnogol diogel.

Byddwch yn Barchus

Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion mae staff a myfyrwyr yn cydweithio i greu cymuned goleg gynhwysol a phleserus lle gall ein myfyrwyr a staff gyflawni eu potensial llawn. 

Mae’r coleg yn cynnwys cymuned amrywiol ac egnïol o staff a myfyrwyr, lle mae unigolion yn cydweithio, cymdeithasu, dysgu a datblygu mewn amgylchedd ysbrydoledig, diogel a chan gefnogi ei gilydd. Rydyn ni’n hyrwyddo awyrgylch o barch y naill at y llall gan ddatblygu amgylchedd dysgu creadigol a chefnogol lle gall myfyrwyr ffynnu.

Gofynnwn i bob un ymddwyn mewn modd parchus, a dangos agwedd bositif tuag at ddysgu a gwaith tra’n mynychu’r coleg. Mae’r holl aelodau staff yn gweithredu fel modelau rôl i’r myfyrwyr ac yn cefnogi ymddygiad positif trwy osod safonau a disgwyliadau uchel. 

Mae staff yn cydnabod ymddygiadau positif ac yn eu gwobrwyo gyda chanmoliaeth, gan gefnogi datblygiad hunan-barch a hunanddisgyblaeth myfyrwyr. Hefyd rydyn ni’n disgwyl bod yr holl staff yn herio ymddygiadau negyddol, er mwyn cynnal amgylchedd coleg cadarnhaol a phleserus i ni i gyd. 

Gweler ein Polisi Ymddygiad Cadarnhaol a Chod Ymddygiad Dysgwyr

[INSERT LINK]

Lluniau hyfryd o ddysgwyr - yn mwynhau ein coleg cadarnhaol

Connected

Kind

Respectful

Gadewch i ni
Fod yn Uchelgeisiol

ARCHWILIO - Ewch ati i archwilio pwy ydych chi a darganfyddwch eich pwrpas. Byddwch yn chwilfrydig, yn feddwl agored ac yn rhagweithiol.

PARATOi - Paratowch ac arloeswch eich agweddau tuag at waith a hunangyflogaeth. Dewch yn hunan-gymhellol, ewch y tu hwnt i gyfyngiadau canfyddedig a chyflawnwch eich uchelgeisiau a chyrchnodau personol.

CYSYLLTU - Cysylltwch a byddwch yn agored i bosibiliadau newydd. Byddwch yn ymatebol i gyfleoedd trwy wneud cysylltiadau newydd a rhwydweithio.

Diogelu

Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion rydym wedi ymrwymo yn ein dyletswydd gofal bod pob myfyriwr yn cael ei gadw'n ddiogel rhag niwed, a all gynnwys camdriniaeth, esgeulustod neu radicaleiddio.

Lles

Mae tîm o Swyddogion Lles cyfeillgar yma i’ch cefnogi gyda phob agwedd ar fywyd coleg. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB