Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gwyddorau Iechyd)

Disgrifiad o'r Rhaglen

Bydd y cwrs Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Egwyddorion a Chyd-destunau) yn darparu rhaglen astudio gynhwysfawr a heriol a fydd yn datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o fewn cyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y materion cyfredol mewn perthynas ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, a dealltwriaeth o'r corff dynol a rhai problemau a all godi pan nad yw systemau'r corff yn gweithredu fel y bwriadwyd.

Mae’r cymhwyster dwy flynedd hwn yn seiliedig ar wybodaeth ac wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd eisiau datblygu eu gwybodaeth am y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd yn darparu sylfaen gadarn i ddysgwyr sydd am symud ymlaen i addysg uwch neu i weithio yn y sector gofal. Bydd gofyn i chi ymgymryd â 100 awr o ymgysylltu â'r sector dros ddwy flynedd i'ch paratoi ar gyfer astudiaeth bellach ar lefel gradd neu i wella'ch sgiliau a'ch cymwysterau os dymunwch chwilio am waith yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol.

Cipolwg

  Llawn Amser

  2 flynedd

  Campws Aberystwyth

Nodweddion y Rhaglen

Cyflwynir y cwrs yn bennaf yn yr ystafell ddosbarth; fodd bynnag, bydd gofyn i chi ymgymryd â 100 awr o ymgysylltu â’r sector, gan gynnwys lleoliad gwaith, ymweliadau â’r gweithle, darlithoedd gwadd a mynychu cynadleddau a digwyddiadau allanol. Bydd yr ymgysylltiad hwn â’r sector yn rhoi profiad i chi yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol, wedi’i deilwra ar gyfer eich dyheadau gyrfa yn y dyfodol.

Mae gan bob aelod o staff sy'n cyflwyno'r cwrs hwn brofiad helaeth o weithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Wyddor Iechyd; felly, mae nifer o gysylltiadau lleol a chenedlaethol wedi'u meithrin i gynnig cyfleoedd ychwanegol i bob dysgwr.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i ddatblygu ac arddangos gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o fewn cyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys:

  • Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel
  • Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion
  • Hawliau unigolion
  • Cefnogi unigolion sydd mewn perygl
  • Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • Iechyd a chlefyd dynol
  • Dulliau ymchwilio gwyddoniaeth feddygol
  • Meddyginiaethau a thrin clefydau
  • Technegau labordai clinigol

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth greiddiol, ac ystod o opsiynau i adlewyrchu ehangder gyrfaoedd yn y sector Iechyd a/neu Ofal Cymdeithasol.

Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i’r rhai sy’n chwilio am yrfa fel Nyrsio, Gofal Cymdeithasol, Bydwreigiaeth, Radiograffeg, Gwyddorau Biofeddygol, Gwaith Cymdeithasol, Seicoleg, y Gyfraith, Troseddeg, Ecoleg a llawer o yrfaoedd eraill.

Yn ddiweddar mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio a chymhwyso, er enghraifft, fel Nyrsys, Radiograffwyr, Ffisiolegwyr, Gwyddonwyr Ymchwil, Athrawon, Gweithwyr Cymdeithasol, a Rheolwyr Gofal Iechyd neu wedi mynd ymlaen i weithio fel gweithwyr cymorth gofal iechyd neu weithio ym maes gofal cymdeithasol.

Asesu'r Rhaglen

Asesir unedau trwy gyfuniad o asesu mewnol ac asesiadau allanol. Gall asesiadau fod ar ffurf traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, trafodaethau, arholiadau ac ati.

Gofynion y Rhaglen

Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad.

TGAU: O leiaf 5 TGAU graddau A* - C, gan gynnwys Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf. Mae angen i Fathemateg fod yn radd E neu uwch.

Bydd gan ddysgwyr sy'n symud ymlaen o gwrs L2 yng Ngholeg Ceredigion ofynion mynediad gwahanol, gan gynnwys cwblhau ac ymgysylltu'n llwyddiannus â'r rhaglen astudio gyfredol, datblygiad sgiliau profedig, lefelau presenoldeb da a derbyn geirda cadarnhaol.

Costau Ychwanegol

Mae'n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi weinyddol o £25 cyn cofrestru.

Gwiriad DBS - £44 (yn dibynnu ar leoliad gwaith).

Teithiau ac ymweliadau adrannol achlysurol sy'n gysylltiedig â'r cwrs - bydd yr holl gostau'n fach iawn lle bo modd.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB