Disgrifiad o'r Rhaglen

Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o dwf personol a datblygiad sgiliau.  Mae'r cwrs ymarferol hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu.  Hefyd, byddwch yn meistroli’r sgiliau a'r technegau sydd eu hangen i roi cychwyn ar yrfa yn y celfyddydau coginio neu letygarwch.  Mae’r cwrs yn borth i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn i symud ymlaen i raglen Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol, Gwasanaeth Bwyd a Diod neu i gyflogaeth. Hefyd bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod o sgiliau a thechnegau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn

  Campws Aberteifi & Aberystwyth

Nodweddion y Rhaglen

Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae'r holl ddysgwyr yn rhedeg y gwasanaeth ym Mwyty Maes y Parc neu Aberista, y bwytai hyfforddi ar y safle ar ein campysau yn Aberteifi ac Aberystwyth. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar ofynion gweithio yn y diwydiant arlwyo mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau coginio a gweini bwyd i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol.  Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi’r sgiliau hyn ar waith. 

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r rhaglen Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddatblygu'r sgiliau sylfaenol mewn arlwyo trwy archwilio'r dulliau coginio sydd eu hangen i baratoi, coginio a gorffennu bwyd Ffrengig traddodiadol.

Mae'r rhaglen Gwasanaeth Bwyd yn caniatáu i ddysgwyr ennill gwybodaeth am y diwydiant gwasanaeth bwyd trwy ddetholiad o unedau wedi'u teilwra at ofynion gweinydd proffesiynol, o waith bar, gwasanaeth coffi arbenigol a derbyn arian.

Dilyniant a Chyflogaeth

Cewch ddigon o gymorth wrth ddatblygu eich gwasanaeth cwsmer a sgiliau a thechnegau cegin, a bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y llwybrau sy’n agored i chi yn y diwydiant.

Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis y rhaglen Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol, a’r cyrsiau Lefel 2 Bwyd a Diod Proffesiynol.

Asesu'r Rhaglen

Bydd yn rhaid prynu iwnifform lawn sy'n cadw at reoliadau diogelwch bwyd a chod gwisg y coleg, gwerslyfr a set o gyllyll. Gellir prynu'r rhain trwy ein cyflenwr enwebedig, neu gellir derbyn iwnifform a chyfarpar a brynwyd yn flaenorol gyda chaniatâd tiwtor y cwrs. 

Mae gwibdeithiau addysgol gartref a thramor hefyd yn cael eu cynnig i ddysgwyr ar y cwrs hwn.  Gellir cynnig profiad gwaith heb unrhyw gost ychwanegol i’r dysgwr. Hefyd, cynigir cymhwyster Diogelwch Bwyd lefel 2 ychwanegol heb unrhyw gost ychwanegol.

Gofynion y Rhaglen

Graddau TGAU A* - G mewn naill ai Cymraeg (Iaith gyntaf) neu Saesneg a bydd Mathemateg o fantais. Cyfweliad llwyddiannus.

Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Costau Ychwanegol

Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.

Mae costau ychwanegol i’r dysgwyr wedi’u cyfyngu i ffioedd cofrestru (a bennir yn flynyddol gan y coleg) a chyfraniad o £30 tuag at gost cyfarpar diogelu personol.

Hefyd, bydd angen i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar ystafell ddosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau ysgrifennu a chyfrifiannell).

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB