Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd
Mae’r cymhwyster hwn wedi ei anelu at ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru sy'n gweithio neu sy'n dymuno gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae wedi ei ddatblygu gan y consortiwm City and Guilds/CBAC mewn cydweithrediad â budd-ddeiliaid o’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), tiwtoriaid, athrawon ac aseswyr yn y gwaith.
Mae wedi’i gynllunio i’w gyflwyno gan ystod o wahanol fathau o ganolfannau gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith ac addysg bellach.
Mae hwn yn gwrs hyblyg, wedi'i gynllunio i weddu i ddysgwyr sy'n well ganddynt barhau i weithio ochr yn ochr â'r cymhwyster neu o fewn lleoliad coleg.
Mae'r cwrs yn elfen ofynnol er mwyn symud ymlaen i'r gydran ymarfer: Lefel 2 neu 3
Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer)
Mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i astudiaeth bellach; gan gynnwys y cymwysterau canlynol o fewn y gyfres Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destun (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc)
Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymarfer (Oedolion)
Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
Diploma a Thystysgrif Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destun
Lefel 3 TAG Safon Uwch a TAG Uwch Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
Mae'r cymhwyster yn cwmpasu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae'n adlewyrchu ystod o wahanol rolau a lleoliadau
Mae’r cynnwys yn cwmpasu;
Iechyd a Diogelwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Asesir y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 Craidd a Phlant a Phobl Ifanc trwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’n llwyddiannus:
Bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfweliad llwyddiannus a chael eich asesu'n ffurfiol gan ddefnyddio pecyn cymorth WEST.
Yn ogystal, bydd angen gwiriad DBS manwl boddhaol arnoch.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun.
Rhaid i'r gweithle ganiatáu digon o amser i alluogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng yr Aseswr, y dysgwr a'r Rheolwr.