Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws Aberystwyth

Gall gweithio gyda phlant fod yn ddewis gyrfa gwerth chweil a boddhaus i unigolion sy’n frwdfrydig dros siapio a meithrin meddyliau ifanc. 

Bydd y cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant lefel dau yn darparu trwydded i chi ymarfer a gweithio gyda phlant rhwng 0-8 oed. Rhennir y rhaglen yn ddwy adran - y craidd a’r elfen theori ac ymarfer.
Cewch y cyfle i wella eich sgiliau Cymraeg ac ennill cymwysterau cymorth cyntaf. Byddwch yn datblygu eich llythrennedd, rhifedd a'ch galluoedd digidol. Bydd yna gyfleoedd i wella graddau mewn TGAU mathemateg a Saesneg.  Bydd gofyn i chi ymgymryd â lleoliad gwaith yn gweithio mewn amgylcheddau gwaith go iawn, sef cyfanswm o 280 awr a drefnir gan aseswr y coleg. Bydd yr aseswr yn gwneud arsylwadau yn y gweithle i sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf gweithle penodol a hefyd bydd angen i chi lunio portffolio ymarfer.

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r cymhwyster wedi'i gynllunio’n bennaf ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach: 

  • Sydd â diddordeb mewn gweithio mewn rôl gefnogi yn y sector gofal plant
  • Sy’n dychwelyd i’r gweithlu ar ôl seibiant gyrfa ac sy’n dymuno diweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y sector gofal plant. 

Cyflwynir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth ac mewn lleoliad gofal plant. Bydd hyn yn cynnwys dau ddiwrnod ar leoliad a thri diwrnod yn y coleg. Bydd siaradwyr gwadd ac arbenigwyr hefyd yn dod i’r coleg i siarad â chi am eu profiadau o fewn gwahanol sectorau gan gynnwys gwasanaethau statudol, gwirfoddol a thrydydd parti. Hefyd byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn profiadau Cymraeg a diwylliannol er mwyn gwella cyflogadwyedd.

Cynnwys y Rhaglen

Adran deilliannau Dysgu Craidd  Datblygiad (0-19 oed) i gynnwys:

  • 001 - Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed) 
  • 002 - Iechyd, Lles, Dysgu a Datblygiad 
  • 003 - Ymarfer Proffesiynol fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant 
  • 004 - Diogelu Plant 
  • 005 - Iechyd a Diogelwch mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Theori (Uned 216) ac elfen Ymarfer (Uned 200- 204 gorfodol ac opsiynol) i gynnwys:

  • Camau a phatrymau cyffredinol datblygiad corfforol, deallusol (gwybyddol), ieithyddol, emosiynol a chymdeithasol mewn plant o adeg cenhedlu i 19 oed. 
  • Y ffordd gall amgylcheddau dysgu gynorthwyo a chefnogi iechyd, lles, datblygiad ac anghenion plant o 0-19 oed  
  • Gwerth ac effaith deddfwriaeth mewn perthynas â phob math o leoliadau chwarae, dysgu a datblygiad plant yng Nghymru.  
  • Rôl a gwerth y gwasanaethau gofal cymdeithasol, addysg ac iechyd sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi anghenion gofal, iechyd, lles a datblygiad plant. 
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae gan y cymhwyster hwn graidd o wybodaeth greiddiol, sgiliau a dealltwriaeth, ac ystod o opsiynau i adlewyrchu ehangder y llwybrau o fewn y sector hwn.  Gallai dilyniant dysgwyr gynnwys astudiaeth bellach ar gwrs lefel tri Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, prentisiaeth neu gyflogaeth.  

Bydd lefel y dilyniant yn dibynnu ar y llwyddiant cyffredinol a gyflawnir yn y cymhwyster.

Dull asesu

Un asesiad amlddewis (a asesir yn allanol)  

Theori - papur cwestiynau (a asesir yn allanol) 

Ymarfer - set o dasgau strwythuredig (cyfanswm o bedwar) a ddefnyddir i gasglu tystiolaeth asesu ar gyfer y rhan fwyaf o'r cynnwys gorfodol. Bydd y tasgau hyn yn cynnwys arsylwi ymgeiswyr yn cynllunio pedwar cyfle/profiad ar wahân; cynnal y cyfleoedd/profiadau hynny a gwerthuso pob un o'r rhain dros gyfnod o chwe mis. 

Portffolio o dystiolaeth i gyd-fynd â'r tasgau strwythuredig. Diben y portffolio yw ategu'r dystiolaeth a gasglwyd o'r tasgau strwythuredig trwy dystiolaeth o ymarfer bob dydd. 

Gofynion Mynediad

Dau TGAU graddau A*-C gyda Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg o leiaf gradd E gyda dau TGAU ychwanegol graddau D i G.

Oherwydd natur y rôl o weithio gyda phlant, bydd angen gwiriad DBS boddhaol yn ogystal arnoch ynghyd â geirda. 

Bydd pob dysgwr yn dilyn llwybr sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol. 

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr gael gwiriad DBS a phrynu iwnifform lleoliad gwaith.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB