Caiff cymhwyster Craidd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant ei gyflwyno yn ystod blwyddyn un. Caiff cymhwyster Theori ac Ymarfer Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant ei gyflwyno dros y ddwy flynedd.
Mae'r cymhwyster yn cwmpasu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac mae'n adlewyrchu ystod o wahanol rolau ac oedrannau.
Blwyddyn 1 - Adran Deilliannau dysgu Craidd Datblygiad (0-19 oed) i gynnwys:
- Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed)
- Iechyd, Lles, Dysgu a Datblygiad
- Ymarfer Proffesiynol fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
- Diogelu Plant
- Iechyd a diogelwch mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Theori ac Ymarfer Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant i’w gwblhau dros ddwy flynedd
Trwy gwblhau'r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn gallu dangos yn ymarferol eu bod yn:
- Deall, ac yn defnyddio mewn ymarfer, yr egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n tanategu gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
- Deall, ac yn defnyddio mewn ymarfer, dulliau gweithredu plentyn-ganolog i ofal, chwarae a dysgu
- Gallu hyrwyddo a chefnogi datblygiad plant trwy eu hymarfer eu hunain.
- Gallu gwerthuso ymchwil a theorïau i gefnogi ymarfer
- Ymwybodol o bolisïau allweddol yn y sector a sut mae'r rhain yn effeithio ar ddatblygu a chyflwyno gwasanaeth
- Gallu gweithio mewn partneriaeth â phlant, eu teuluoedd, gofalwyr ac ystod o weithwyr proffesiynol
- Gallu myfyrio ar ymarfer er mwyn gwella’n barhaus, gallu defnyddio ystod o dechnegau datrys problemau
- Gallu defnyddio llythrennedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol o fewn eu rôl
Dros y ddwy flynedd caiff dysgwyr y cyfle i gwblhau cymhwyster ychwanegol ochr yn ochr naill ai â:
- Gwaith Chwarae
- Bagloriaeth Cymru