Mae’r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth greiddiol, sgiliau a dealltwriaeth, ac ystod o opsiynau i adlewyrchu ehangder y gyrfaoedd o fewn y sector iechyd a/neu ofal cymdeithasol.
Mae’r cwrs hwn yn cynnig llu o gyfleoedd i’r rheiny sy’n chwilio am yrfa megis nyrsio, gofal cymdeithasol, bydwreigiaeth, radiograffeg, gwyddorau biofeddygol, gwaith cymdeithasol, seicoleg, y gyfraith, troseddeg, ecoleg a llawer o yrfaoedd eraill.
Yn ddiweddar mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio ac i gymhwyso, er enghraifft, fel nyrsys, radiograffyddion, ffisiolegwyr, gwyddonwyr ymchwil, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, a rheolwyr gofal iechyd neu wedi mynd ymlaen i weithio fel gweithwyr cymorth gofal iechyd neu i weithio mewn gofal cymdeithasol.