Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • Bydd yn cymryd rhwng 12 a 18 mis i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.

  • Campws Aberystwyth

Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer i’r rheiny sydd â phrofiad mewn rôl arwain neu reoli yn y sector gofal plant.

Fe’i cynlluniwyd i helpu dysgwyr dros 19 oed i ymarfer fel arweinwyr a rheolwyr yn y sector ac mae’n arbennig o berthnasol i'r rheiny sy'n rheoli darpariaeth Dechrau’n Deg, neu i'r rheiny sy'n cyflwyno'r cwricwlwm ar gyfer plant 3-7 oed mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen yng Nghymru.

Hefyd mae'n addas ar gyfer:

  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus y cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus hen gymhwyster perthnasol a restrir yn y ‘Fframwaith Cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru’ - Gofal Cymdeithasol
Nodweddion y Rhaglen

The qualification is primarily designed for learners aged 16-19 who are following a two-year course. It will normally be taken alongside another level 3 qualifications, such as a combination of A levels and/or vocational qualifications.

The Advanced Skills Baccalaureate Wales can be completed in Welsh or English.

Cynnwys y Rhaglen

Mae cynnwys gorfodol y cymhwyster Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer yn cwmpasu’r unedau gorfodol canlynol:

  • Arwain a rheoli ymarfer plentyn-ganolog
  • Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
  • Arwain a rheoli ansawdd y gweithle/lleoliad
  • Ymarfer proffesiynol
  • Arwain a rheoli ymarfer sy’n hyrwyddo diogelu plant
  • Arwain a rheoli iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle/lleoliad

Mae ystod o unedau opsiynol hefyd ar gael o fewn y cymhwyster hwn.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae'r cymhwyster yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu cyfleoedd cyflogaeth neu barhau i astudio ymhellach ar lefel uwch.

Dull asesu

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei asesu’n allanol.

Rhaid i ddysgwyr gwblhau’n llwyddiannus:

  • Portffolio o dystiolaeth
  • Prosiect busnes
  • Trafodaeth broffesiynol

Rhaid i ddysgwyr gyflawni lleiafswm o 120 credyd i gyd.

  • 90 credyd o’r grŵp Gorfodol 
  • Lleiafswm o 30 credyd o’r grŵp Opsiynol
Gofynion Mynediad

Bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfweliad llwyddiannus a chael eich asesu'n ffurfiol gan ddefnyddio pecyn cymorth WEST.

Yn ogystal, bydd angen gwiriad DBS manwl boddhaol arnoch.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun. Rhaid i'r gweithle ganiatáu digon o amser i alluogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng  aseswr, dysgwr a rheolwr.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB