Llais y Dysgwr
Rydym yn talu cryn sylw i'r hyn y mae ein dysgwyr yn dweud wrthym ac rydym wedi gwneud cynnydd ardderchog yn y blynyddoedd diwethaf i gryfhau llais y myfyriwr ar draws y ddau gampws. Dal diddordeb dysgwyr gweithredol yw un o'r gwerthoedd craidd sy'n tanategu ein gwaith cynllunio strategol a'n proses o wneud penderfyniadau. Mae gennym enghreifftiau ardderchog o sut mae'r coleg wedi newid dros y blynyddoedd o ganlyniad i ‘lais y dysgwr’. Caiff y rhain eu bwydo yn ôl i'n dysgwyr mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys adroddiadau a phosteri “Dywedoch chi, gwnaethon ni” a arddangosir o gwmpas y campysau, er mai'r dystiolaeth orau bob amser yw gweld gwelliannau a newidiadau positif ar gyrsiau a champysau. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi roi eich sylwadau a'ch adborth i ni am y coleg, p'un a yw'n dda neu'n ddrwg.
Gallech chi gael eich ethol fel cynrychiolydd eich dosbarth a mynychu cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn gyda staff a chynrychiolwyr dosbarth o gyrsiau eraill, gallwch chi bostio cerdyn yn y blwch awgrymiadau; siaradwch â'ch tiwtor neu aelod staff o'r tîm Cefnogi Dysgwyr. Rydym yn eich annog i gyfathrebu gyda ni os ydych yn fyfyriwr llawn amser neu ran-amser, boed mewn addysg bellach neu addysg uwch. Y naill ffordd neu'r llall, rydym eisiau cael eich adborth.
Parch, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae gan Goleg Ceredigion ymrwymiad cryf i gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae parch yn air a ddefnyddir yn fwy aml nag unrhyw un arall ar bob campws drwy gydol ein blynyddoedd academaidd. Yn ogystal â bod hyrwyddo pob un o'r tri yn thema gyson gan yr holl staff, mae yna nifer o fentrau a digwyddiadau a gynhelir ar hyd y flwyddyn i atgyfnerthu'r negeseuon. Bydd cyfres o wythnosau thematig a sesiynau tiwtorial yn hyrwyddo dealltwriaeth ein dysgwyr.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod ein dysgwyr yn dweud wrthym eu bod yn teimlo'n ddiogel pan fyddant yn y coleg.
Ymddygiad
Mae ein diwylliant o barch yn cael effaith bositif iawn ar ymarweddiad dysgwyr ac ymddygiad yn yr ystafelloedd dosbarth, y gweithdai, o gwmpas y coleg ac yn y cymunedau cyfagos. Disgwylir i bob dysgwr lofnodi ‘Côd Ymddygiad’ y coleg yn ystod eu hwythnos gynefino. Yn ystod yr adegau pan fydd dysgwyr yn torri'r Côd Ymddygiad hwnnw, mae gweithdrefn gadarn ar waith i sicrhau bod unrhyw faterion neu ddigwyddiadau yn cael eu trin yn effeithlon ac yn effeithiol. Byddwch chi yn gweld bod ein ‘Polisi Disgyblu'r Coleg’ ar gael i'w lawrlwytho a cheir amlinelliad manwl o'r gweithdrefnau. Mae'r Tîm Cefnogi Dysgwyr yn awyddus i weithio gyda dysgwyr sydd, am ryw reswm neu'i gilydd, yn cael profiad o'r broses ddisgyblu, a byddwn yn ceisio gwneud ein gorau, lle bynnag y bo'n bosibl i sicrhau bod dysgwyr yn cwblhau eu hastudiaethau heb dorri'r côd ymddygiad unwaith eto.
Rheoli Presenoldeb ac Absenoldeb
Caiff presenoldeb pob dysgwr ei fonitro'n agos ac rydym yn gosod safon uchel iawn o ran yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych. Rydym yn deall bod yna resymau dilys am absenoldeb yn y mwyafrif o achosion, fodd bynnag, byddwn am weithio gyda'r rheiny nad yw eu presenoldeb yn bodloni'r meini prawf. Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn cyfathrebu gyda'r coleg pan maent yn mynd i fod i ffwrdd o'r coleg a gofynnwn i chi gysylltu â swyddfa'ch campws erbyn 9.30am fan pellaf, mae'r llinellau fel arfer ar agor ar ôl 8.00am. Caiff pob absenoldeb ei nodi ar gofnod personol y dysgwr. Gall cyllid myfyrwyr megis y Lwfans Cynnal Addysg (EMA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) gael eu heffeithio os na fydd dysgwr yn cyfathrebu gyda ni i roi gwybod am yr absenoldeb. Mae’n rhwydd i chi gyfathrebu eich negeseuon i ni, gyda'r opsiynau o ffonio neu e-bostio’r coleg.
Cynefino â'r Coleg
Mae timoedd cwrs yn cyflwyno gwybodaeth sy'n benodol i'r cyrsiau a'r campysau yn ystod ychydig ddiwrnodau cyntaf y flwyddyn goleg. Bydd aelod staff o'r tîm Cefnogi Dysgwyr hefyd yn siarad â phob grŵp newydd, fel arfer am tua hanner awr, i gyflwyno negeseuon allweddol ar y pynciau canlynol.
- Y Côd Ymddygiad
- System Ddisgyblu
- Ysmygu
- Sbwriel
- Defnyddio Gâr i
- “Byddwch yn ddiogel” a systemau diogelu
- Argaeledd cymorth mentor a chynghori
- Argaeledd Cymorth Dysgu
- Targedau presenoldeb a gweithdrefnau absenoldeb
- Parch ac ymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Polisi bwlio
- Arweiniad gyrfaol sydd ar gael
- Cymorth Cyllid Myfyrwyr sydd ar gael
- Undeb y Myfyrwyr
Bydd peth deunydd ychwanegol hefyd ar gael ar-lein er mwyn i'r timoedd cwrs allu atgyfnerthu'r negeseuon hyn yn ystod yr wythnosau cyntaf. Ein nod yw trosglwyddo ein negeseuon allweddol i'r holl ddysgwyr, llawn amser a rhan-amser. Mae'r tîm Cefnogi Dysgwyr ar gael bob amser drwy gydol y flwyddyn i drafod unrhyw un o'r pynciau hyn gyda'n holl ddysgwyr.