Ffon: 01239 612032
Ebost: enquiries@ceredigion.ac.uk

Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a Gweini bwyd a Diod


Corff Dyfarnu:

CG

Sector:

Addysg bellach

Hyd y Rhaglen:

Blwyddyn

Cyflenwi Dwyieithog:

Gellir astudio'r cwrs hwn yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd

Rhaglen Disgrifiad

Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad sgiliau a chreadigrwydd coginiol.  Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am wella eu sgiliau coginio a'u hyder. Mae’n borth i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel dilyniant i raglen Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol, Gwasanaethau Lletygarwch neu i mewn i gyflogaeth neu brentisiaeth. Byddwch yn paratoi ystod o seigiau a fydd yn eich caniatáu i ddatblygu sgiliau cyllell, a gwybodaeth am amrywiaeth o ddulliau coginio a thechnegau paratoi bwyd.  Byddwch hefyd yn dysgu sut i baratoi a gweini diodydd ac yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen mewn amgylchedd gwasanaeth bwyd.

Rhaglen Nodweddion

Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae'r holl ddysgwyr yn rhedeg y gwasanaeth ym mwyty Myrddin, y bwyty hyfforddi ar y safle.  Yma byddwch yn cael golwg realistig ar ofynion gweithio yn y diwydiant arlwyo mewn amgylchedd ysgogol a chefnogol. Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau coginio a gweini bwyd i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol.  Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi sgiliau ar waith mewn amgylchedd gwaith.

Dilyniant a Chyflogaeth

Byddwch yn datblygu eich sgiliau gweithio mewn tîm, gwasanaeth cwsmer a sgiliau a thechnegau’r gegin, a bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y diwydiant lletygarwch a’r ystod eang o lwybrau posibl oddi fewn iddo. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis y rhaglen Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol, neu i gyflogaeth neu brentisiaeth.

Dull Asesu

Asesir unedau trwy arsylwi ar dasgau ymarferol a gofyn cwestiynau sy'n seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau cyfryngau.  

Gofynion Mynediad

Bydd angen i chi fod wedi cwblhau L1 mewn Coginio Proffesiynol neu L1 mewn Gwasanaethau Lletygarwch yn llwyddiannus.  Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.

Blwyddyn Academaidd Cyflenwi Campws Blwyddyn Academaidd Opsiynau cwrs
2018 - 2019 Full Time Aberystwyth Campus 1 Year Ymholidarllen mwy Gwneud Cais
2018 - 2019 Full Time Cardigan Campus 1 Year Ymholidarllen mwy Gwneud Cais
Campws Cyfeiriad Cod post
Aberystwyth Campus Llanbadarn Fawr,
Aberystwyth,
Ceredigion
SY23 3BP
Cardigan Campus Maes y Parc,
Aberteifi,
Ceredigion
SA43 1AB