Dengys ymchwil addysgol fod y bartneriaeth rhwng myfyrwyr, rhieni neu warcheidwaid a’r Coleg yn hanfodol bwysig ar gyfer dysgu llwyddiannus. Mae’r Parth hwn yn rhan o’n hymrwymiad i sefydlu partneriaethau gwaith rhwng myfyrwyr, eu teuluoedd a’r Coleg i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cyrraedd eu llawn botensial.
Mae’r Coleg yn gweithio’n galed i sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyngor gyrfaol teg ac mae’n gweithio’n agos gydag ysgolion i wneud y cyfnod pontio o’r ysgol i’r Coleg yn un esmwyth. Mae’r broses bontio hon yn eang ac mae’n cynnwys ymweliadau ag ysgolion gan gyn-ddisgyblion a staff er mwyn darparu gwybodaeth, cysylltiadau pontio pynciol, diwrnodau rhagflas yn ein Coleg, a Nosweithiau Agored, sy’n digwydd yn gyson ar hyd y flwyddyn.
Ar adegau rydym yn cael digwyddiadau arbennig megis Gwyl Gyrfaeodd Ceredigion. Yn y digwyddiad hwn, rydym yn ymuno gyda Gyrfa Cymru i ddod â rhai o gyflogwyr mwyaf Gorllewin Cymru a darparwyr hyfforddiant at ei gilydd ar gyfer digwyddiad gyrfaoedd yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth. Ei ffocws yw dod â phobl wyneb yn wyneb â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, colegau addysg bellach a phrifysgolion.
Gyda’ch cymorth a’ch anogaeth rwy’n siŵr y byddwch yn gweld bydd profiad eich mab neu ferch gyda ni yn un arbennig. Mae Diogelu yn flaenoriaeth i ni ac mae’r gofal, cymorth ac arweiniad a ddarperir gennym i ddysgwyr yn nodwedd ardderchog o’r Coleg cynhwysol hwn. Yn y cyd-destun hwn, caiff yr holl ddysgwyr eu trin yn gyfartal a disgwylir iddynt fod yn oddefgar ac yn dderbyngar o bobl eraill. Yn fwyaf oll, nod y Coleg yw ysbrydoli myfyrwyr, cynyddu eu sgiliau, creu ystod o gyfleoedd a sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial.
Mae staff y Coleg yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda chi.
Dr Andrew Cornish, CPhys MInstP, TAR
Prif Weithredwr/Pennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion