Coleg yn croesawu digwyddiad iechyd
Yn ddiweddar, croesawodd Coleg Ceredigion y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gampws Aberystwyth fel rhan o'u taith iechyd.
Wedi'i drefnu gan y ddau sefydliad, nod y digwyddiad oedd tynnu sylw at bwysigrwydd bod yn rhugl yn y Gymraeg yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig wrth weithio gydag aelodau agored i niwed yn y gymdeithas.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr gwadd amrywiol o'r diwydiant iechyd, gan gynnwys nyrsys pediatrig, fferyllwyr, nyrsys prentisiaeth a myfyrwyr nyrsio oedolion.
Rhannodd yr holl siaradwyr eu profiad personol o allu delio â chleifion yn ddwyieithog, gan dynnu sylw at bwysigrwydd gallu siarad Cymraeg gan fod llawer o gleifion yn teimlo'n fwy cyfforddus yn cymryd rhan mewn sgwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ôl y darlithydd iechyd a gofal cymdeithasol Sara Jones: “Roedd yn hyfryd croesawu pob siaradwr o wahanol sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i’r coleg.
“Rhoddodd y digwyddiad ei hun gipolwg gwerthfawr i fyfyrwyr o bwysigrwydd gofal a lles cleifion, ac i lawer o gleifion, mae gallu cyfathrebu trwy eu mamiaith yn elfen bwysig.”