B.Sc., Is-Gadeirydd y Bwrdd
Magwyd Rosemary yn Wigan, Sir Gaerhirfryn, ac aeth i Ysgol Uwchradd y Merched Wigan cyn symud ymlaen i Brifysgol Bryste lle enillodd radd B.Sc. Anrhydedd mewn Mathemateg. Gan aros ymlaen ym Mryste ar ôl graddio, dechreuodd weithio yn y diwydiant yswiriant.
Ar ôl iddi gwrdd â’i gŵr, a oedd hefyd yn gweithio yn yr un maes, fe wnaethant sefydlu eu busnes broceriaeth yswiriant a gwasanaethau ariannol eu hunain yn Rhydaman a Llandeilo. Gwerthwyd y busnes yn y pen draw yn 2001 ar ôl 26 mlynedd, ac wedi hynny penodwyd Rosemary yn Rheolwr Prosiect ar gyfer y Ganolfan Dyscovery, Canolfan amlddisgyblaethol i bobl ag anawsterau dysgu, ac yn rhan o Brifysgol De Cymru.
Ochr yn ochr â’i gwaith, gwirfoddolodd Rosemary hefyd am sawl blwyddyn fel tiwtor sgiliau sylfaenol gyda grwpiau oedolion yng Nghaerfyrddin, gyda ffocws ar fathemateg a rhifedd.
Fe’i penodwyd i Fwrdd Coleg Sir Gâr ym mis Tachwedd 2010 a’i phenodi wedi hynny yn Gyfarwyddwr Coleg Sir Gâr Ltd. ac yna’n Is-gadeirydd y corff llywodraethu ym mis Ionawr 2018.