Dysgu am bwysigrwydd diwylliant Cymru mewn busnes

Mae myfyrwyr busnes yng Ngholeg Ceredigion wedi ymweld â chwmni yn Nolgellau i ddysgu am fusnes gwledig llwyddiannus sydd â’r iaith Gymraeg yn ganolog iddo.  

Caffi a bar yw Gwin Dylanwad Wine sydd hefyd yn arbenigo mewn sicrhau, samplu a gwerthu casys o win yn ogystal â gwirodydd, anrhegion a hamperi  o darddiad lleol. 

Roedd y cwmni, sy’n cael ei redeg gan Dylan a Llinos a’u tîm, yn awyddus i rannu gyda’r myfyrwyr y cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc i fynd i fyd busnes heb weld bod bod mewn ardal wledig yn rhwystr.

Meddai Llinos Rowlands: “Siaradwyd yn ogystal am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn busnes ac ni ddylid anghofio bod y rhan hon o’r gymuned yn ddemograffeg o werth sylweddol ac mai cefnogi’r diwylliant a’r iaith yw’r peth iawn i’w wneud.

“Rhoddwyd sylw hefyd i gynllunio’r busnes yn ogystal â marchnata gyda phwyslais ar gadw llygad barcud ar y byd gwleidyddol a’r economi - gall hyn gael effaith sylweddol ar y busnes ac mae’n talu ffordd i feddwl ymlaen am beth fydd eich heriau allweddol yn y 12 mis nesaf.

Mae’r cwrs busnes yng Ngholeg Ceredigion yn paratoi myfyrwyr ar gyfer symud ymlaen o fewn y sector busnes a sectorau cysylltiedig, boed yn  gyflogaeth, entrepreneuriaeth neu symud ymlaen i astudiaethau perthnasol yn y brifysgol. 

Mae rhai o fodiwlau’r cwrs yn cynnwys busnes rhyngwladol, marchnata, cyllid a rheolaeth gyda modiwlau opsiynol mewn gwasanaethau cwsmeriaid, brandio, a gwerthu syniad ar gyfer busnes ond rhoddir pwyslais cryf hefyd ar ddiwydiant a chysylltiadau’r coleg gyda chwmnïau, sefydliadau a siaradwyr gwadd.

Ychwanegodd Llinos Rowlands: “Rhaid i mi ddweud, roedd yn bleser rhoi sgwrs i’r grŵp hwn o fyfyrwyr.

“Roedd y sgwrs a’r cyfraniad ganddyn nhw yn ddeallus, yn aeddfed ac roedden nhw’n hynod o wybodus – rwy’n siŵr bod yna ddyfodol disglair iddyn nhw ym mha bynnag yrfa maen nhw’n ei dewis.”

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB