Mae Coleg Ceredigion yn gwahodd y cyhoedd i fwyty El Salsa yn Aberteifi i gefnogi myfyrwyr a fydd yn cynnal noson Beaujolais pop-yp yn llawn bwyd Ffrengig.
Yn y digwyddiad un noson, bydd bwydlen Ffrengig draddodiadol sy’n cynnwys pedwar i bum cwrs yn cael eu coginio a’u gweini gyda gwydraid o Beaujolais.
Mae El Salsa yn cau dros fisoedd y gaeaf ond mae’n cynnig ei gyfleusterau bwyty ar gyfer digwyddiadau pop-yp sy’n rhoi cyfle perffaith i fyfyrwyr ar gyrsiau coginio proffesiynol a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion i brofi rhywbeth sy’n ychwanegol at eu gweithgareddau coginio ym mwyty hyfforddi’r coleg.
Yn gynwysiedig yn y fwydlen mae arancini caws, tryffl a winwns, dewis o vol-au-vents, cawl winwns Ffrengig gyda croûte gruyère, meunière lleden gyda chaprau, lemwn a dil, bourguignon cig eidion gyda pommes Anna, mille feuille siocled gwyn a mafon a crêpes Suzette sy’n draddodiadol Ffrengig.
Cost y noson yw £25 y pen sy'n helpu i ariannu bwyty hyfforddi'r coleg lle mae myfyrwyr yn dysgu crefft coginio.
Huw Morgan, darlithydd coginio proffesiynol a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion sy'n trefnu'r digwyddiad. Meddai: “Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyhoedd yn cefnogi ein myfyrwyr ac yn dod i ymuno â ni yng nghanol Aberteifi ar gyfer ein digwyddiad untro.
“Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau tebyg yn ein bwyty hyfforddi sef Bwyty Maes y Parc yn y coleg, ond bydd gweithio yn El Salsa yn cynnig profiad o goginio mewn cegin wahanol a gwahanol fath o wasanaeth i fyfyrwyr.”