Mae cyn-fyfyriwr arlwyo o Goleg Ceredigion wedi cyflawni camp anhygoel drwy ddod yn ail yn y Gystadleuaeth Young Chef Young Waiter.
Bu Daniel Davies, a astudiodd letygarwch yng Ngholeg Ceredigion rhwng 2018 a 2021 ar ôl darganfod brwdfrydedd am wasanaeth bwyd, yn cymryd rhan yn y digwyddiad cyntaf yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe ddydd Mawrth 2ail Tachwedd. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant.
Nod cystadleuaeth Young Chef Young Waiter y Byd a sefydlwyd ym 1979, yw hyrwyddo gyrfaoedd ym maes lletygarwch, ac mae ar agor i bob cogydd a gweinydd proffesiynol o dan 26 oed sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Pan gafodd Daniel ei rôl Blaen y Tŷ gyntaf, roedd wrth ei fodd â’r gwasanaeth a chymerodd ran yn ei gystadleuaeth Blaen y Tŷ gyntaf yn Llandudno. Yna enillodd fedal aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ym mis Tachwedd 2020 a chystadlodd yn rowndiau terfynol y DU yn Glasgow ac enillodd fedal arian. Ei lwyddiant diweddaraf yw cael ei ddewis ar gyfer Carfan y DU i gystadlu yn Leon, 2024.
Cyfarfu’r holl ymgeiswyr â rhai o unigolion lletygarwch mwyaf blaenllaw Cymru ar y panel beirniadu arbenigol, fe wnaethant feithrin sgiliau allweddol a gwneud cysylltiadau â chystadleuwyr eraill mewn amgylchedd hwyliog, heriol a gwerth chweil.