Fel rhan o Gynllun Turing - rhaglen fyd-eang y DU ar gyfer astudio a gweithio dramor, rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr busnes a’r cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion deithio i’r Almaen gan ymweld â Frankfurt a Berlin.
Roedd y daith yn cynnwys ymweliadau â Kronberg-im-Taunus, gefeilldref Aberystwyth, yn ogystal â Llysgenhadaeth Prydain yn Berlin a Chyfnewidfa Stoc Frankfurt fel rhan o ymweliad addysgol a diwylliannol ar gyfer myfyrwyr lefel tri.
Roedd llawer o uchafbwyntiau i’r daith ond y rhai amlwg o safbwynt busnes oedd yr ymweliad â Llysgenhadaeth Prydain lle cafodd y myfyrwyr sgwrs gan Dr Dolores Volkert, cadeirydd Siambr Fasnach Prydain a’r Almaen ar rôl y Siambr a’i chysylltiadau â masnach a busnesau yn y DU a’r Almaen.
Dilynwyd hyn gan gyflwyniad gan Ryan Hanley o’r Adran Masnach Ryngwladol am bwysigrwydd masnachu rhwng cenhedloedd a
mynediadr farchnad.
Meddai Kevin Williams, darlithydd busnes yng Ngholeg Ceredigion: “Roedd hwn yn brofiad unigryw i’n, myfyrwyr y mae ychydig iawn o bobl yn ei gael a dangosodd fwy i ni am sut mae masnach a chydweithredu yn gweithio ar draws ffiniau, a oedd yn arbennig o ddiddorol ar ôl Brexit.”