Cydnabod Prentis gwaith asiedydd o Goleg Ceredigion yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru

Mae myfyriwr gwaith asiedydd dawnus yng Ngholeg Ceredigion wedi dod yn ail ar gyfer gwobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.

Cyhoeddwyd bod Dion Evans, 19, sy’n gweithio i Alwyn Evans Cyf yn ei bentref genedigol, Talgarreg, Llandysul wedi dod yn ail mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiannau eithriadol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn ystod cyfnod heb ei debyg.

Hefyd, mae Dion wedi cymhwyso mewn cystadleuaeth ranbarthol ddiweddar lle cafodd ei osod ymhlith yr wyth o gystadleuwyr gorau yn y DU. Mae’r llwyddiant hwn wedi ei sbarduno i gystadlu eto yn rownd derfynol genedlaethol eleni a gynhelir yng Nghaeredin.

Meddai: “Mae fy mhrentisiaeth nid yn unig wedi dysgu’r sgiliau i mi sydd eu hangen arnaf i wneud fy ngwaith, ond mae hefyd wedi gwneud i mi herio fy hun ymhell drwy gystadlu mewn cystadlaethau a gwthio fy hun i gyrraedd safon uwch. Rwyf wedi tyfu llawer fel asiedydd ac fel unigolyn.

“Mae cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a rowndiau terfynol cystadlaethau cenedlaethol WorldSkills UK wedi bod yn brofiad gwych ac yn hwb mawr i’r hyder. Mae wedi rhoi ffordd newydd o feddwl i mi a dull mwy modern o weithio.

“Mae’r hyn rydw i wedi’i ddysgu yn ystod fy mhrentisiaeth, ynghyd â’r gefnogaeth a’r anogaeth a gefais gan Alwyn, wedi rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnaf i ddod yn grefftwr medrus a llwyddiannus yn y dyfodol.”

Nod Dion yn y pendraw yn y dyfodol yw rhedeg ei fusnes ei hun, ac yntau wedi sefydlu gweithdy cartref eisoes lle mae'n gwneud dodrefn gardd i'w llogi ar gyfer digwyddiadau.

 

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB