Cafodd myfyrwyr Arlwyo o gampws Aberystwyth Coleg Ceredigion gyfle cyffrous i gynnal digwyddiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Aeth tîm o fyfyrwyr o bob un o dair lefel y cyrsiau arlwyo ati i lunio bwydlen a oedd yn cynnwys dewis o ganapes tra dethol a diodydd croeso ar gyfer y digwyddiad a oedd yn gorfod cyd-fynd â briff a roddwyd iddynt.
Ymysg yr enghreifftiau o ganapes y gwnaethant eu creu oedd beignet madarch gwyllt, madarch wedi'u piclo ac olew tryffl a pharfait afu cyw iâr, marmaled winwns Cymreig, surdoes gyda chrwst crensiog.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar 16eg Mawrth 2023 a dyma oedd lansiad yr archif ddarlledu genedlaethol gyntaf yn y DU i agor yn Aberystwyth. Mae’r archif wedi’i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Hon fydd yr archif ddarlledu genedlaethol gyntaf yn y Deyrnas Unedig, ac un o’r archifau darlledu mwyaf defnyddiadwy yn Ewrop. Bydd yn trawsnewid mynediad y cyhoedd i ganrif o hanes darlledu yng Nghymru gyda ffilm, fideo a sain yn y Gymraeg a’r Saesneg wedi’u digideiddio i’w darganfod.