Llwybr Olena at gyflawni ei breuddwydion yn y diwydiant celf a dylunio

Myfyriwr, Olena yn sefyll am ddelwedd gyda'i gwaith celf

Mae Olena Konstantinova, sy’n 19 oed, yn ffoadur Wcreinaidd a deithiodd ar ei phen ei hun i fyw yng Nghymru yn Ebrill 2022. Pan gyrhaeddodd Olena’n ddiogel yng Nghymru, gyda chymorth a chefnogaeth fe wnaeth ddarganfod  Diploma Sylfaen CBAC mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Ceredigion.

Ers iddi astudio ym mis Medi mae hi eisoes wedi bod yn gwneud ceisiadau i brifysgolion ac mae hi wedi sicrhau cynnig amodol  i astudio yn Ysgol Gelf Caergrawnt  ym Mhrifysgol Anglia Ruskin.

Meddai Olena:“Rwyf wedi mwynhau lluniadu a bod yn greadigol erioed. Mae fy aelodau teuluol wedi bod yn dda mewn celf erioed ac wedi fy ysbrydoli i wneud celf yn fy nyfodol. Penderfynais i fy mod am fynd i brifysgol i astudio darlunio felly astudio’r cwrs sylfaen mewn celf yng Ngholeg Ceredigion oedd y cam naturiol i’m helpu i gyrraedd y brifysgol.

“Ers astudio yng Ngholeg Ceredigion, rwyf wedi ennill mwy o hyder yn fy ngwaith ac rwyf wedi gwneud cynnydd da sydd wedi fy mharatoi ar gyfer y brifysgol. Mae fy nghymheiriaid yn gefnogol iawn ac mae’n braf cael pobl o’ch cwmpas sy’n eich deall ac sydd â’r un diddordebau. Mae celf yn rhan ohonof ac ni allaf ddychmygu fy hun hebddi. Rwy’n angerddol iawn ac rwy’n teimlo’n ddiolchgar i allu bod ar y llwybr i wneud celf fel gyrfa.”

Mae’r Diploma Sylfaen yn gwrs blwyddyn, dwys a gynlluniwyd i roi profiad trylwyr a chynhwysfawr i ddysgwyr o gelf, crefft, dylunio a'r cyfryngau.   Mae’r cwrs hwn y mae CBAC yn gorff dyfarnu iddo yn galluogi myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus o ran eu dilyniant gyrfaol i Addysg Uwch a / neu gyflogaeth. 

Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd, deall deunyddiau a thechnegau, egwyddorion sylfaenol celf a phwysigrwydd ymchwil cyd-destunol. Ei nod yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu disgyblaeth waith gadarn drwy ymarfer rheolaidd a helaeth ac mae’n addas ar gyfer myfyrwyr hŷn (17 a hŷn) sy’n dymuno ehangu eu galluoedd a’u dealltwriaeth o gelf.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB