Yma yng Ngholeg Ceredigion rydyn ni’n cynnig ystod o gyrsiau gofal anifeiliaid y gallwch chi eu hastudio. Mae’r rhain yn cynnwys Gofal Anifeiliaid lefel 1, Gofal Anifeiliaid lefel 2, Gofal Anifeiliaid lefel 3.
Mae’r holl gyrsiau’n arwain at ddatblygu sgiliau i weithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid ac mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys gweithwyr gofal anifeiliaid dan hyfforddiant mewn siopau anifeiliaid anwes, stablau, sŵau, cyndai a chathdai achub yn ogystal â chynorthwywyr gofal mewn ysbytai anifeiliaid.
Caiff dysgwyr y cyfle i ddysgu sut i adeiladu ar eu sgiliau o weithio gydag anifeiliaid a sut i weithio’n ddiogel a bod yn gyfrifol am gynllunio a chyflawni hwsmonaeth, iechyd, trin anifeiliaid, a thasgau bwydo.
Ar hyn o bryd mae Ffion Lewis, Katie Dadd a Goncalo Dias yn astudio Gofal Anifeiliaid lefel 3 ac maen nhw wedi rhannu eu profiad o astudio yng Ngholeg Ceredigion a’r hyn maen nhw’n gobeithio cyflawni yn y dyfodol.