Mae Dion wedi’i gyflogi fel prentis gan gwmni Alwyn Evans Cyf yn Nhalgarreg ac enillodd ei ddiploma NVQ City & Guilds lefel tri mewn gwaith asiedydd mainc ar gampws Aberteifi Coleg Ceredigion.
Dechreuodd yn y gweithdy asiedydd trwy helpu allan yn ystod gwyliau’r ysgol a sylweddolodd yn fuan mai dyma oedd y llwybr gyrfa iddo fe.
Pan adawodd yr ysgol dechreuodd ar gwrs gwaith saer ac asiedydd lefel un ac yna enillodd brentisiaeth swyddogol gyda chwmni Alwyn Evans.
Mae Dion yn brentis gwobrwyedig sydd wedi ennill llawer o anrhydeddau gan gynnwys medalau WorldSkills ar lefel ranbarthol a lefel y DU.
Cafodd colli ei fam i ganser pan oedd yn wyth oed effaith ar ei fywyd fodd bynnag, ond gwnaeth gweithio yn y gweithdy asiedydd ei helpu i ganolbwyntio ac adeiladu ei hyder
Meddai Alwyn Evans: “Cyn i Dion ddechrau gweithio gyda fi, fi oedd yr unig berson yn gweithio i’r cwmni.
“Ers i Dion fod yn gweithio i mi, mae wedi gallu cymryd mwy o waith a phrosiectau yn fwy ac mae hyn wedi cael effaith ar y busnes, gan gynyddu gwerthiant 20%.
“Mae ei lwyddiant mewn cystadlaethau sgiliau hefyd wedi cynhyrchu cyhoeddusrwydd cadarnhaol ar gyfer y cwmni ac mae ei ddysgu parhaus wedi’i alluogi i gyfrannu’n dda at y busnes.”
Yn ogystal â’i lwyddiannau yn ennill medalau ac o ganlyniad i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, yn fwy diweddar cafodd Dion ei ddewis fel rhan o Garfan y DU ar gyfer WorldSkills, Lyon 2024. Cafodd ei gyflawniadau prentisiaeth eu cydnabod hefyd fel cystadleuydd rownd derfynol yng Ngwobrau Prentisiaeth Cenedlaethol Cymru yn 2022.
Yn ogystal enillodd fedal arian am waith asiedydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2020/21, efydd am waith asiedydd yn WorldSkills y DU yn 2021, efydd am waith saer yn 2021/222 ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a medal efydd arall am waith asiedydd yn 2022 ar gyfer WorldSkills y DU.
Yn ei fywyd personol, trefnodd Dion a’i chwaer ddigwyddiad codi arian, sef seiclo am 75 o filltiroedd a cherdded am 18 milltir er cof am eu mam, gan godi £17,609 ar gyfer uned cemotherapi Ysbyty Glangwili.