Mae myfyrwyr coginio proffesiynol a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion wedi bod yn chwilota ar y traeth ac yn dysgu am gynaladwyedd a tharddiad bwyd.
Dechreuodd y grŵp ym Mhont-yr-ŵr (Wisemans Bridge) yn chwilio am berlysiau a gwyrddlesni ac yna mynd ymlaen i Draeth Llanusyllt (Saundersfoot Beach).
Craig Evans o Chwilota Arfordirol (Coastal Foraging) arweiniodd y wibdaith ac fe ddysgodd myfyrwyr pa berlysiau arfordirol sy’n ddiogel i’w bwyta a sut mae’r dirwedd yn newid drwy bob tymor.
Helpodd e’r grŵp i chwilota am gregyn gleision, cregyn blacen, cregyn rasel a chocos ac esboniodd am y ffurfiau niferus o wymon bwytadwy a sut mae pysgod cregyn yn faetholion pwysig.
Meddai Sam Everton, darlithydd arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion: “Casglon ni amrywiaeth o berlysiau’r môr a deiliach gan gynnwys garlleg gwyllt, ffenigl y môr a betys arfor a bu Craig, a oedd yn wirioneddol frwdfrydig, yn coginio’r hyn roedden ni wedi’i ddal ar y traeth.
“Dysgodd y daith y myfyrwyr o ble mae eu bwyd yn dod ac roedd rhai ddim yn ymwybodol o beth oedd yn tyfu ar ein harfordir a sut y gellid ei ddefnyddio mewn bwytai.
“Mae cynaladwyedd yn bwnc tra dylanwadol ac arwyddocaol mewn lletygarwch ar y foment felly mae’n hanfodol i’w proffesiwn yn y dyfodol bod myfyrwyr yn deall gwerth cynnyrch sy’n cael ei dyfu’n lleol a manteision defnyddio’r fath fwydydd.”