Therapi harddwch yn cystadlu am le yn y ffeinal cenedlaethol

Cyn bo hir bydd pedair myfyrwraig therapi harddwch yng Ngholeg Ceredigion yn cael gwybod a ydynt drwodd i rownd derfynol genedlaethol WorldSkills y DU.

Byddan nhw’n cystadlu yn rowndiau rhagbrofol rhanbarthol Ymarferydd Harddwch WorldSkills y DU yn Walsall lle y cânt i gyd eu profi ar eu sgiliau gan gynnwys gofal cleientiaid, proffesiynoldeb, iechyd a diogelwch ac yn cael gwiriad amser ar rai o’r tasgau.

Bydd Emily Jenkins a Ruby Rees yn cystadlu yn y categori lefel dau a Keira Rogers a Donna Griffiths yn lefel tri.

Ar gyfer lefel dau, mae’r tasgau’n cynnwys cwyro poeth y ceseiliau, paratoi’r croen, diflewio a chynhyrchion ôl-ofal yn ogystal â thintio’r aeliau, dewis lliwiau, sielacio ewinedd, ffeilio, gwaith cwtigl a rhoi farnais.

Mae’r briff lefel tri yn cynnwys rhaglanhau’r cefn, diblisgo, tylino’r cefn. Triniaeth glanhau’r wyneb, dadansoddi’r croen, tylino’r wyneb, rhoi masg, tynhau a lleithio.

Mae pob cystadleuydd yn cael awr a hanner i gwblhau eu briffiau, gan weithio i safonau neilltuol o uchel o ran sgiliau a phroffesiynoldeb.

Mae Donna Griffiths eisoes wedi ennill medal efydd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a Keira Rogers medal arian. Os byddan nhw’n gymwys i gystadlu yn ffeinal cenedlaethol y DU ym mis Tachwedd mae’n bosibl y cânt y cyfle i symud eu sgiliau ymlaen i gystadlu am le yn nhîm y DU ar gyfer WorldSkills.

Meddai Roma Morgan, y cydlynydd cwrs ar gyfer therapi harddwch yng Ngholeg Ceredigion:  “Rydyn ni wrth ein bodd yn cael bod yn rhan o’r cystadlaethau hyn, mae wir yn annog a hyrwyddo sgiliau proffesiynol y diwydiant ac mae’n helpu ein myfyrwyr i gyrraedd eu potensial llawn a chredu ynddyn nhw eu hunain.”

Cliciwch yma i weld yr amrywiaeth o driniaethau gwallt a harddwch sydd ar gael yn ystod y tymor.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB