Mae cwrs Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu yng Ngholeg Ceredigion yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid.
Pwrpas y cwrs yw cynnig sylfaen ar gyfer y wybodaeth a'r sgiliau cyfrifyddu craidd sydd eu hangen i symud ymlaen naill ai i gyflogaeth neu astudio pellach.
Mae’r cwrs yn agored i’r rheiny sydd yn gweithio a’r rheiny nad ydynt ar hyn o bryd mewn swydd a gallai’r cymhwyster hwn helpu rhywun sydd eisoes yn gweithio mewn rôl gyllid lefel mynediad i symud ymlaen yn eu gyrfa trwy gynnig datblygiad a chydnabyddiaeth ffurfiol iddynt o’u sgiliau.
Gall y sgiliau cyllid, cyfrifeg, busnes a chyfathrebu a ddatblygir yn y Dystysgrif Sylfaen AAT mewn Cyfrifyddu arwain at gyflogaeth fel gweinyddwr cyfrifon, cynorthwyydd cyfrifon, clerc cyfrifon taladwy, technegydd cyfrifyddu dan hyfforddiant.
Mae’r cwrs ar-lein hwn yn cael ei addysgu gan yr hynod brofiadol, Ruth Elias sydd wedi astudio’r cwrs ei hun yng Ngholeg Ceredigion cyn symud ymlaen i addysgu’r pwnc. I ddysgu mwy am stori Ruth yna darllenwch fwy yma.
Mae Rhonwen Adams ac Elis Ladd Thomas ill dau yn astudio cwrs Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu ar hyn o bryd ac wedi rhannu eu profiad o astudio yng Ngholeg Ceredigion a sut mae’r cwrs yn eu cefnogi yn eu cyflogaeth.