Cystadleuaeth fewnol rithwir
Yn ddiweddar, cymerodd myfyrwyr trin gwallt Coleg Ceredigion ran mewn cystadleuaeth trin gwallt rithwir, fewnol.
Cynhaliwyd yr her pedair wythnos o bell oherwydd y pandemig presennol gyda myfyrwyr yn defnyddio blociau ymarfer yn lle modelau go iawn.
Gwnaeth y steilydd lleol Jess Webb, sydd ei hun yn cystadlu mewn cystadlaethau Salon Cymru, gytuno'n garedig i feirniadu’r gystadleuaeth.
Yn y categori lefel dau, cyhoeddwyd mai Chloe Cox Parkin oedd yn fuddugol, gyda Carl Moulding yn cipio’r ail safle a Sian James yn dod yn drydydd.
Coronwyd Shauna Phillips yn bencampwr yn y categori lefel tri, tra bod Bethan Ireland yn yr ail safle.
Yn ôl y darlithydd Jane Clarke-Evans: “Rydyn ni’n falch iawn o ymdrech y myfyrwyr yn y gystadleuaeth.
“Fe wnaethant gyflwyno gwaith o ansawdd uchel o dan amgylchiadau anodd gan nad ydym wedi gallu cynnal sesiwn ymarferol lawn fel y byddem fel arfer oherwydd y pandemig.
“Unwaith eto eleni mae’r myfyrwyr wedi dangos gwytnwch mawr ac rydyn ni fel adran yn falch ohonyn nhw.”