Ennill profiad o wersyll
Yr haf diwethaf, dychwelodd Barbara Atzori, myfyriwr gofal plant lefel tri, adref i ymweld â theulu yn Sardinia. Erbyn diwedd mis Gorffennaf roedd yn ôl yn ei thref enedigol, Sorgono.
Yn ystod ei hamser yn Sorgono, siaradodd â ffrind a oedd ar y pryd yn trefnu gwersyll haf i blant.
Gan weld hwn fel cyfle i ennill profiad gwerthfawr o weithio gyda phlant ynghyd â helpu ei ffrind, penderfynodd Barbara wirfoddoli.
Yn ystod ei chyfnod yn y gwersyll, edrychodd Barbara ôl 12 o blant rhwng tair a saith oed.
Gan elwa o astudio cwrs gofal plant yng Ngholeg Ceredigion, trefnodd Barbara gyfres o weithgareddau ar gyfer y plant a oedd yn cynnwys: helfa drysor yn y coed, dysgu'r plant i chwarae tenis, paentio a chreu llwybrau synhwyraidd a gwibdeithiau i safleoedd archeolegol.
Yn ôl Barbara: “Fe wnes i fwynhau fy amser yn y gwersyll haf yn fawr gan fy mod wedi ennill profiad gwerthfawr.
“Un o fy hoff brofiadau oedd mynd â’r plant i’r felin er mwyn eu dysgu am sut mae blawd yn cael ei wneud o rawn.
“Fe wnes i hefyd fwynhau creu’r llwybrau synhwyraidd o amgylch gardd lysiau, gyda’r rhan fwyaf o’r plant wedi mwynhau profiadau newydd fel cerdded yn droednoeth drwy’r mwd.
“Roedd gweld y mynegiannau llawn cyffro ar eu hwynebau yn foment foddhaus.”