Proses Apelio Cyrsiau Galwedigaethol Y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) ar gyfer Haf 2021
Yn dilyn effaith pandemig Covid-19, penderfynodd y mwyafrif o sefydliadau dyfarnu cyrsiau galwedigaethol y byddai trefniadau graddio diwygiedig ar gyfer cymwysterau galwedigaethol eleni.
O ganlyniad, mae'r graddau terfynol a ddyfernir i ddysgwyr ar gyrsiau galwedigaethol JCQ yn Haf 2021 yn seiliedig ar Raddau a Asesir gan Athrawon (TAGs). Darlithwyr y coleg sydd wedi penderfynu ar y TAGs a ddyfernir gan staff y coleg ac maen nhw wedi bod yn destun gwiriadau mewnol trylwyr ac ymarfer sicrhau ansawdd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y graddau y mae'r coleg yn eu cyflwyno i sefydliadau dyfarnu yn gywir.
Bydd y coleg yn rhannu'r TAGs â dysgwyr sy'n astudio ar gyrsiau Lefel 3 ddydd Mawrth 10fed Awst 2021 a gyda dysgwyr sy'n astudio ar gyrsiau Lefel 2 ddydd Iau 12fed Awst 2021.
Yna, os yw dysgwr am apelio yn erbyn ei radd(au), mae proses dau gam i'w dilyn.
Cam 1 - adolygiad gan y ganolfan
Gall dysgwr gyflwyno cais i'r coleg am adolygiad gan y ganolfan yn unig ar y sail bod y ganolfan wedi:
- methu â dilyn ei gweithdrefnau yn gywir neu'n gyson;
- gwneud camgymeriad gweinyddol mewn perthynas â'r canlyniad.
Rhaid i'r ymgeisydd wneud cais i’r ganolfan am adolygiad gan y ganolfan erbyn:
- 16 Awst 2021 (ar gyfer apeliadau â blaenoriaeth - myfyrwyr sy'n gwneud cais i addysg uwch nad ydynt wedi ennill eu dewis pendant, h.y. y cynnig a dderbyniwyd ganddynt fel eu dewis cyntaf, ac sy’n dymuno apelio yn erbyn canlyniad cymhwyster Lefel 3);
- 3 Medi 2021 (ym mhob achos arall).
Dylid gwneud apeliadau i’r coleg drwy feappeal@colegsirgar.ac.uk (Coleg Sir Gâr) neu feappeals@colegeceredigion.ac.uk (Coleg Ceredigion).
Cam Dau - apeliadau at y sefydliad dyfarnu
Gall unrhyw ddysgwr sy'n ystyried y bu camgymeriad gweithdrefnol, camgymeriad gweinyddol neu fod ei radd yn adlewyrchu arfer barn academaidd yn afresymol (naill ai oherwydd y ffordd y pennwyd y radd a/neu ddethol y dystiolaeth), gyflwyno cais am apêl i’r sefydliad dyfarnu ar ôl iddo dderbyn canlyniad ei adolygiad gan y ganolfan ac ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau.
Rhaid gwneud pob cais am apêl yn uniongyrchol i'r ganolfan a gyflwynodd y radd a rhaid i'r sefydliad dyfarnu ei dderbyn erbyn:
- 23 Awst 2021 ar gyfer apeliadau â blaenoriaeth (ar gyfer myfyrwyr sy'n gwneud cais i addysg uwch nad ydynt wedi ennill eu dewis pendant, h.y. y cynnig a dderbyniwyd ganddynt fel eu dewis cyntaf, ac sy'n dymuno apelio yn erbyn canlyniad cymhwyster Lefel 3);
- 17 Medi 2021 ar gyfer apeliadau heb fod â blaenoriaeth.
Mae manylion llawn y broses apelio ar gyfer cyrsiau galwedigaethol JCQ i'w gweld yma: https://www.jcq.org.uk/wp-content/uploads/2021/06/JCQ_Appeals-Guidance_Summer-2021.pdf