Os ydych yn gwybod pa ddiwydiant yr ydych am gamu iddo (er enghraifft, gweithio mewn gofal iechyd, y diwydiant adeiladu neu gynhyrchu yn y cyfryngau) yna gallai Diploma Cyntaf neu Genedlaethol fod yn well ar gyfer eich dilyniant gyrfaol na phynciau Safon Uwch, gan gyfuno dysgu ymarferol gyda chynnwys pwnc a theori. Mae cyrsiau galwedigaethol addysg bellach yn darparu ymagwedd ymarferol tuag at ddysgu.
Yn ogystal, mae cyrsiau galwedigaeth yn eich helpu i nodi pa rôl benodol rydych am ei dilyn yn eich diwydiant dewisol, yn wahanol i bynciau Safon Uwch sy’n fwy academaidd, damcaniaethol ac yn seiliedig ar arholiadau.
Mae Diploma Cenedlaethol yn gyfwerth â thri phwnc Safon Uwch ac yn cael ei dderbyn gan lawer o brifysgolion a chyflogwyr. Mae angen i chi ystyried eich arddull dysgu a’ch dyheadau wrth benderfynu pa gymhwyster sydd orau i chi.
Bydd ein holl gyrsiau yn rhoi profiadau gwaith rhagorol i chi ac yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio gyda chyflogwyr a chwsmeriaid go iawn ac yn meithrin cysylltiadau. Dychmygwch eich bod yn cymryd gofal o fwyty lleol, yn gweithio gyda’n cleientiaid yn ein Hacademi Steil, yn perfformio o flaen cynulleidfa fyw, neu’n arddangos eich gwaith i’r cyhoedd trwy arddangosiadau proffesiynol. Dyma rai o’r profiadau y byddwch yn eu mwynhau.
Mae gennym ddiddordeb nid yn unig mewn creu myfyrwyr sydd â chymwysterau da, sy’n gyflogadwy ond hefyd i’ch helpu chi i gyflawni eich uchelgeisiau. Beth bynnag rydych chi'n chwilio amdano, a beth bynnag yr hoffech ei wneud, bydd Coleg Ceredigion yn rhoi'r cychwyn gorau i chi.