Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion mae staff a myfyrwyr yn cydweithio i greu cymuned goleg gynhwysol a phleserus lle gall ein myfyrwyr a staff gyflawni eu potensial llawn.
Mae’r coleg yn cynnwys cymuned amrywiol ac egnïol o staff a myfyrwyr, lle mae unigolion yn cydweithio, cymdeithasu, dysgu a datblygu mewn amgylchedd ysbrydoledig, diogel a chan gefnogi ei gilydd. Rydyn ni’n hyrwyddo awyrgylch o barch y naill at y llall gan ddatblygu amgylchedd dysgu creadigol a chefnogol lle gall myfyrwyr ffynnu.