Cyfrifon Dysgu Personol (CDP) / ReAct+

Cyfrifon Dysgu Personol (CDP) / ReAct+

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi'u hariannu'n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg ac i weithio o amgylch anghenion busnes a chyflogaeth, y nod yw uwchsgilio’r gweithlu mewn meysydd y nodwyd bod eu hangen yn rhanbarthol.

Pam Cyfrif Dysgu Personol (PLA)?

  • Hyfforddiant a chymwysterau rhan-amser, hyblyg, wedi'u hariannu'n llawn
  • Symud ymlaen yn eich gyrfa
  • Newid sector cyflogaeth
  • Gwella eich rhagolygon cyflogaeth trwy gadw eich rôl neu sicrhau gwell cyflogaeth

Cymhwysedd

Os ydych yn 19 oed neu’n hŷn, yn byw yng Nghymru ac mae unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi, yna gallwch fod yn gymwys:

  • Ennill llai na £30,596 y flwyddyn;
  • Gweithio ar gontract dim oriau;
  • Gweithio i asiantaeth;
  • Gofalwr llawn amser;
  • Troseddwr wedi'i ryddhau am y dydd;
  • Mewn perygl o golli eich swydd;
  • Mae'r cwrs yr hoffech ei wneud wedi'i eithrio o'r cap cyflog h.y. digidol neu sero net.

Cyrsiau

Ni allwch gael PLA os nad ydych yn bodloni un o’r meini prawf hyn, os ydych mewn addysg lawn amser, yn ymgymryd â rhaglen brentisiaeth neu’n ddi-waith ar hyn o bryd. Gallwch gysylltu â ni o hyd i gael cyngor ynglŷn â pha gyllid arall sydd ar gael ar bdi@colegsirgar.ac.uk

Gweler isod am gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Sir Gâr/Coleg Ceredigion a hefyd am rai astudiaethau achos gwych hyd yn hyn.

Os cawsoch eich gwneud yn ddi-waith neu eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth wedi'i deilwra er mwyn eich helpu i gael cyflogaeth, cyn gynted â phosibl.

Pam ReAct+?

  • Hyd at £1,500 i'ch helpu i gael y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnoch - Grant Hyfforddiant Galwedigaethol;
  • Hyd at £4,550 i helpu talu costau gofal plant/gofal pan fyddwch chi’n hyfforddi;
  • Hyd at £500 o gymorth datblygu personol i’ch helpu i fynd i'r afael â'r pethau sy'n eich rhwystro rhag cael swydd - Cymorth Datblygu Personol;
  • Mentora a phrofiad gwaith;
  • Hyd at £300 o gymorth ar ben hynny tuag at gostau ychwanegol pan fyddwch chi’n hyfforddi, gan gynnwys teithio a llety.

Cymhwysedd

Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth ReAct+ mae'n rhaid eich bod yn 18 oed neu'n hŷn, yn byw yng Nghymru, gyda hawl i fyw a gweithio yn y DU, ac yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:

  • Wedi cael hysbysiad colli swydd ffurfiol;
  • Wedi colli swydd neu ddod yn ddi-waith o fewn y 12 mis diwethaf;
  • Bod rhwng 18 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i hyd at £1500 i'ch helpu i gael y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnoch. Rhowch gipolwg ar y cyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Sir Gâr/Coleg Ceredigion a hefyd am rai astudiaethau achos gwych hyd yn hyn.

Nid ydych yn gymwys?

Gallwch gysylltu â ni o hyd i gael cyngor ynglŷn â pha gyllid a hyfforddiant arall sydd ar gael yn bdi@colegsirgar.ac.uk

Gall cymorth ReAct+ hefyd gynnwys help gyda chostau gofal plant/gofalu pan fyddwch yn hyfforddi, mentora a phrofiad gwaith a chostau eraill sy’n helpu i ddileu rhwystrau i gyflogaeth. I gael mwy o gyngor ynglŷn â hyn cysylltwch â Cymru’n Gweithio neu ffoniwch nhw’n rhad ac am ddim ar 0800 028 4844.

Rheoli Prosiectau Prince 2 yng Nhgoleg Sir Gâr

"Roeddwn yn gallu cyrchu a chwblhau cwrs rheoli prosiectau trwy'r PLA yng Ngholeg Sir Gâr ac yn wir, ni allwn fod yn hapusach gyda'r profiad a'r canlyniadau. Roedd y cymhwyster yn hanfodol ar gyfer cymryd cam i fyny yn fy ngyrfa a’r mis diwethaf, llwyddais i sicrhau swydd newydd gyda Gwasanaeth Sifil y DU Mae'r wybodaeth a gefais yn fy ngalluogi i fod ar flaen y gad o ran rheoli prosiectau ac yn bendant mae wedi rhoi mantais i mi yn ystod y broses recriwtio. Bu’r tîm PLA yng Ngholeg Sir Gâr yn gymwynasgar ac yn gefnogol drwy gydol fy nhaith ddysgu, gan fy ngalluogi i bersonoli'r profiad dysgu gyda’r darparwr cwrs trydydd parti. Ar y cyfan, rwyf wrth fy modd gyda'r canlyniadau a fy swydd newydd, ac rwy'n argymell Coleg Sir Gâr yn fawr i unrhyw un sydd am wella eu gobeithion gyrfaol."

Jenn D - Rheoli Prosiectau Prince 2

Meysydd Blaenoriaeth Rhanbarthol De Orllewin a Chanolbarth Cymru

  • Deunyddiau, Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch
  • Adeiladu
  • Diwydiannau Creadigol
  • Digidol a Thechnoleg
  • Ariannol a Phroffesiynol
  • Bwyd ac Ar Dir
  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
  • Lletygarwch, Adwerthu, Hamdden a Thwristiaeth

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB