Campus slider
Campus slider

Bwyty
@Aberista.

@Aberista yw bwyty hyfforddi proffesiynol Coleg Ceredigion ar gampws Aberystwyth. Mae myfyrwyr yn dysgu eu crefft gan ddefnyddio cyfarpar cyfoes, yn perffeithio'r sgiliau technegol sydd eu hangen i baratoi, coginio a gweini prydau o ansawdd uchel mewn lleoliad cyfoes lle mae'r addurniad yn adlewyrchu'r ardal arfordirol. 

Defnyddir yr ynys arddangos eliptig i goginio o flaen cwsmeriaid. Mae'n darparu'r ffocws ar gyfer digwyddiadau gyda'r nos rheolaidd gyda phen-cogyddion lleol a chyn-fyfyrwyr lle maent yn arddangos eu sefydliadau ochr yn ochr â'r myfyrwyr. 

Mae cyn-ddysgwyr wedi symud ymlaen i weithio yn y gwestai a'r bwytai gorau yn Llundain a Chaerdydd, er enghraifft, y Ritz, yr Ivy a’r Potted Pig. 

Mae'r bwyty ar agor i'r cyhoedd ar:

Dydd Mawrth, Mercher a Iau

Coffi: 10.15 - 11.30am

Cinio: 12:00pm - 2.15pm

01970 860252
aberista@ceredigion.ac.uk

ARCHEBWCH FWRDD.

I gael diweddariad am y bwydlenni cinio misol ac i archebu bwrdd, cysylltwch â’r Dderbynfa ar 01979 639700. 

Cadwch lygad mas am ein digwyddiadau arbenigol ar ein tudalen facebook @Aberista.

FFON

01970 639700

@Aberista, Coleg Ceredigion, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 4SW