Academi Microsoft Imagine.

Mae campws Aberystwyth Coleg Ceredigion yn Academi Microsoft Imagine (MIA) ac yn ganolfan Brofi Certiport drwyddedig.  Mae'r Academi yn cynnig cyfle i gyfranogwyr ddysgu a chael gwybodaeth gyfredol am y rhaglenni Microsoft Office diweddaraf, megis Word, Excel, PowerPoint ac Access.

Mae'r adnodd cyffrous hwn yn fantais go iawn i fyfyrwyr gan y profwyd bod ardystiad yn gwella cyflogadwyedd.  Mae hwn yn gyfle gwerthfawr, o ystyried bod Rhagamcaniadau Cyflogaeth BLS yn rhagweld y bydd angen sgiliau technoleg mewn 73% o swyddi newydd yn y pum mlynedd nesaf.   Mae hyn yn sicrhau bod pob defnyddiwr ardystiedig wedi dangos y gallu i feistroli nodweddion ac ymarferoldeb llawn Microsoft Office, gan eu paratoi ar gyfer cyfleoedd academaidd neu’r gweithlu yn y dyfodol.

 Bydd y gallu i ddangos sgiliau TGCh uwch mewn meddalwedd o safon diwydiant yn gwneud gwir wahaniaeth wrth fynd i mewn i'r farchnad swyddi. Mae Ardystiad Microsoft yn arbennig o werthfawr gan ei fod yn cael ei gydnabod mor eang ym myd busnes.  Nid yn unig i’n myfyrwyr y mae’n fuddiol, ond mae cofrestru ar gyrsiau'r Academi yn ffordd wych i aelodau cymuned ehangach Ceredigion wella eu cyflogadwyedd, a hefyd dylai fod yn ddeniadol i fusnesau lleol sy’n anelu at godi safonau mewn cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn y gweithle.  Mae'r Academi yn cyflwyno'r dulliau dysgu mwyaf effeithiol,diweddaraf, gan gyfuno cyswllt wyneb yn wyneb â hyfforddwyr ag astudio annibynnol ar-lein.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB