Nid oedd Ben yn siŵr ai gwaith trydanol oedd ei lwybr gyrfa, felly treuliodd fis ar Raglen
Ymgysylltu’r coleg yn gweithio i drydanwr er mwyn ennill profiad cyn gwneud penderfyniad.
Yn ystod ei brofiad, sylweddolodd Ben bod gweithio gyda thrydan yn bendant yn rhywbeth roedd yn mwynhau ei wneud ac o ganlyniad,
cynigiodd ei gyflogwr ei gefnogi wrth iddo symud ymlaen i hyfforddeiaeth achrededig ar lefel un.
Ar ôl mis yn unig o weithio ar lefel un, cafodd Ben gynnig o Brentisiaeth Sylfaen gan fod ei sgiliau’n gwella’n gyson i symud ymlaen i lefel yn uwch.
