Gweler swyddi gwag presennol y coleg isod. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn destun i Wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Adnoddau Dynol ar 01554 748171.
Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi trwy gyfrwng y Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
in Swyddi
by Super User
37 awr yr wythnos
Parhaol
£28,597
Prif Gampws Aberteifi
Dyddiad cau: 24 Mawrth 2021 am 12 canol dydd
Mae cyfle cyffrous i unigolyn deinamig a brwdfrydig wedi codi ar draws ein pedwar campws yng Nghaerfyrddin a Cheredigion.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n gallu gweithio gyda'n dysgwyr a staff i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Byddwch yn gweithio gydag Uwch Arweinwyr a Rheolwyr Cwricwlwm i ddatblygu ein cwricwlwm cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy'n galluogi ein dysgwyr i symud ymlaen i waith ac astudiaeth bellach ac yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol iddynt lwyddo yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Cymru a thu hwnt.
Bydd deilydd y swydd, a fydd yn gweithio yn y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr a Phartneriaethau, yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo datblygiad sgiliau Cymraeg ledled y coleg. Gan weithio'n agos gyda'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (SLT) a Thimau Rheoli Cyfadrannau (FMT) yn ddyddiol, bydd y swydd yn cynnwys teithio helaeth ar draws Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, ac yn galw am hyblygrwydd o ran oriau gwaith.
Rydym am glywed gennych
Cliciwch yma i weld y Pecyn Swydd
I wneud cais am swydd cwblhewch y Ffurflen Gais briodol a’i ebostio i
This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ei phostio i:
Adran Adnoddau Dynol
Coleg Ceredigion
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BP