Swyddogion Lles Myfyrwyr a Mentoriaid.

Mae ein tîm cyfeillgar o Swyddogion Lles Myfyrwyr a Mentoriaid ar bob campws yn frwdfrydig ynghylch ymgysylltu â'r dysgwyr mewn ffyrdd arloesol ac amrywiol. Gallant godi'r rhwystrau i ddysgu trwy ddarparu cymorth mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys sesiynau 1:1, sesiynau datblygiad personol a chymdeithasol a gweithgareddau adeiladu tîm. Mae gennym hefyd gysylltiadau ardderchog gydag asiantaethau cefnogi eraill ar gyfer yr adegau pryd efallai na fedrwn eich helpu ond rydym yn gwybod bod eraill yn gallu. Mae ein cefnogaeth, ein cyngor a'n harweiniad yn wasanaeth cyfrinachol.

Mentora Cynnydd a Chefnogaeth Lles

Mae Swyddogion Lles Myfyrwyr a Mentoriaid ar gael ar eich cyfer ar draws yr holl gampysau i roi cymorth 1:1 sy'n ymlaciol a chyfrinachol. Gallant eich helpu a'ch cynghori ar ystod eang o bethau a byddant yn eich cefnogi cymaint â phosib i oresgyn rhwystrau sy'n effeithio ar eich astudiaethau. Gallwch wneud apwyntiad neu alw heibio eu swyddfeydd a gofyn i gael trefnu amser sy’n gyfleus ar eich cyfer, gofynnwch i’ch tiwtoriaid i drefnu’r apwyntiad neu gallwch anfon e-bost atynt yn uniongyrchol.  Mae pob myfyriwr yn gallu cael mynediad i'r cymorth, a chyhyd â’u bod nhw yn gwybod beth allai'r broblem fod, byddant yn gwneud eu gorau i helpu. Mae Swyddogion Lles Myfyrwyr a Mentoriaid ar gael i siarad â thiwtoriaid ar eich rhan os nad ydych yn hyderus eto, ac yna byddant yn gweithio gyda chi i ddatblygu'r hyder a'r gwydnwch i symud ymlaen mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. Gall y gefnogaeth gael effaith bositif ar eich profiad yn y coleg, felly beth am alw heibio a dweud helo a dod i wybod beth gall y tîm wneud i chi.

Cymorth Pontio

Mae'r tîm yn gwybod bod dechrau ar eu cwrs coleg dewisol yn gallu bod yn achos straen i fyfyrwyr. Felly, mae'r tîm yn medru gwneud nifer o bethau sy'n gallu helpu camu i mewn i'ch maes dewisol fod yn ddidrafferth. Mae staff ymroddedig ar gael mewn Nosweithiau Agored, ac maen nhw hefyd yn gallu dod i'ch ysgol neu eich prosiect i gael sgwrs anffurfiol am ffyrdd o wneud pethau'n haws ac yn llai o straen i chi. Cynhelir diwrnodau rhagflas ar ddechrau mis Gorffennaf er mwyn i ddarpar fyfyrwyr gwrdd â’u tiwtoriaid cwrs, eu cyfoedion a chael rhagflas o’r cwrs  a gynigwyd iddynt. 

Hefyd, mae’r mentoriaid Cynnydd wedi rhedeg diwrnodau gweithgaredd yn llwyddiannus yn ystod misoedd yr haf i helpu myfyrwyr sy’n nerfus ynghylch dechrau yn y coleg. Trefnwyd y rhain i gynyddu hyder a rhyngweithio'n gymdeithasol gyda phobl o'r un bryd.

Os nad yw gweithgareddau at eich dant, yna mae'r mentoriaid Cynnydd o gwmpas drwy gydol misoedd yr haf i gwrdd â chi am sgwrs. Os oes unrhyw beth y mae arnoch angen cyngor neu arweiniad yn ei gylch, neu os ydych am gyfarwyddo â'r campws maen nhw ar gael i'ch gweld chi.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB