Teithio.

O ddydd Llun 25 Ebrill 2022 - Myfyrwyr yn teithio ar Fysiau a Thacsis ar Gontract y Coleg
Er nad yw gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol, argymhellir eu bod yn cael eu gwisgo gan fyfyrwyr (oni bai eu bod wedi'u heithrio'n feddygol) wrth deithio ar fysiau a thacsis ar gontract y coleg.
Ni wrthodir teithio i unrhyw un os na chaiff gorchudd wyneb ei wisgo.

Os bydd angen eithriad awdurdodedig ar fyfyriwr i beidio â gwisgo gorchudd wyneb (oherwydd cyflyrau meddygol), yna gall y myfyriwr wneud cais i'r cysylltiadau Coleg a enwir yn Wasanaethau Myfyrwyr.

Diweddariad Pwysig - O ddydd Llun, 14 Medi 2020:

Bysiau Contract y Coleg - gall dysgwyr barhau i’w defnyddio nes bod tocynnau bws yn cael eu rhoi.      

Bysiau Gwasanaeth Cyhoeddus - Gall dysgwyr barhau i ddefnyddio'r Llythyr Tocyn Bws Dros Dro a gawsant yn ystod yr wythnos gynefino nes eu bod yn derbyn eu tocyn bws. Os nad ydyn nhw wedi derbyn y Llythyr Tocyn Bws Dros Dro, gofynnwch i Swyddfa'r Campws. Gellir hawlio pris tocyn bws yn ôl yn Swyddfa'r Campws ar ôl cynhyrchu tocyn dilys ac yn amodol ar wiriadau dilysu.  Byddwn yn cysylltu â dysgwyr perthnasol ar eu cyfrif e-bost coleg gyda mwy o fanylion.

Rydym mewn amgylchiadau eithriadol ac yn gofyn i bawb fod yn amyneddgar. Rhoddir y mesurau hyn ar waith er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo feirws   COVID19 ar gyfer pawb sy’n teithio ar fysiau a thacsis y coleg. Mae diogelwch pawb yn hollbwysig ar yr adeg hon.

 

Mae tocynnau bws am ddim ar gael dim ond os ydych chi rhwng 16 ac 18 oed ac yn byw yng Ngheredigion. 

Os ydych chi:

  • dan 16
  • 19 ac yn hŷn
  • yn byw y tu allan i Geredigion
  • yn astudio cwrs sydd ar gael mewn coleg arall yn agosach at eich cartref

bydd yn ofynnol i chi dalu cyfraniad o £100 tuag at gost eich tocyn bws.

Byddwch yn gwneud cais am eich tocyn bws gyda’r Gweinyddwr Cyswllt Myfyrwyr yn ystod eich cyfweliad.

Teithio i Goleg Ceredigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB