Rwyf ar ben fy nigon i gael y cyfle i wasanaethu fel swyddog cydraddoldeb ac amrywiaeth Coleg Sir Gâr am y flwyddyn academaidd sydd ar ddod. Dylai blynyddoedd coleg fod yn rhai o flynyddoedd mwyaf pleserus a chofiadwy ein bywydau.
Oherwydd hyn, rwyf am hybu amrywiaeth a chynwysoldeb yn ein coleg fel bod pawb, waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol, hil, ethnigrwydd neu ryw, yn cael mynediad cyfartal i gyfleoedd wrth astudio. Rwyf am gydweithio’n agos gyda fy swyddogion eraill ar hyd y flwyddyn sydd ar ddod, sef y Swyddog LGBTQ+, y Swyddog Gofalwyr Ifanc, y Swyddog Menywod, a’r Swyddog Lles a’r Swyddog Allgymorth.
Er mwyn helpu myfyrwyr i leddfu straen a meithrin eu rhwydweithiau cymdeithasol, rydym am greu nifer o grwpiau cefnogi ar bob un o’r campysau yng
Ngholeg Sir Gâr.
Yn ychwanegol, byddaf yn ymdrechu i ddechrau ymgyrch i ddisodli unrhyw iaith hynafol neu iaith a allai fod yn niweidiol sy'n dal i fod yn gyffredin ledled rhwydwaith y campysau. Trwy wneud hyn, rwy’n gobeithio sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo’n ddiogel ac yn gysurus yn ystod eu hamser yma.